Sut gallwn ni helpu

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd amrywiaeth o gymorth ar gael a all helpu gyda phethau fel y dreth gyngor, cyflogaeth a chostau byw.

Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

Bydd Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn darparu taliad arian parod untro o £200 i un aelod o aelwyd sy'n gyfrifol am filiau trydan/nwy/dŵr.

Eleni, byddwn yn rhoi taleb y gellir ei gyfnewid am £200 mewn arian parod yn eich swyddfa bost leol, i bawb sy'n derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor. Os oes gennych hawl i Ostyngiad y Dreth Gyngor byddwch yn derbyn taleb erbyn diwedd mis Tachwedd 2022.

Prydau Ysgol Am Ddim

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae cynghorau ledled Cymru yn ehangu argaeledd prydau ysgol am ddim, gan ddechrau gyda’u dysgwyr ieuengaf. Y nod yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn gallu cael cinio ysgol am ddim erbyn 2024.

O fis Medi 2022, bydd Casnewydd yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.

Banciau a pharseli bwyd 

Mae'r cyngor yn cefnogi dosbarthu parseli bwyd ac mae nifer o fanciau bwyd yn y ddinas. Os oes angen i chi gael mynediad at y gwasanaethau hyn, ffoniwch ein hybiau cymdogaeth ar y rhif rhadffôn 0808 196 3482.

Grwpiau bwyd cymunedol – cynllun grant

Mae cynllun i helpu’r sefydliadau hyn wedi agor i dderbyn ceisiadau ar ôl cael ei lansio gan y cyngor mewn partneriaeth â'r CMGG.

Bydd banciau bwyd, a grwpiau eraill sy'n helpu trigolion sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, yn gallu gwneud cais am grantiau i gynorthwyo gyda chostau beunyddiol fel prynu bwydydd i ail-lenwi eu stociau.

Am ragor o wybodaeth neu ewch i  Grant scheme to help community food groups (gavo.org.uk) neu e-bostiwch [email protected]

Cymorth pellach i grwpiau sy'n agored i niwed 

Mae ystod o gymorth ar gael drwy ein hybiau ardal.  Mae timau fel ein cysylltwyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.  

Os nad ydych mewn grŵp agored i niwed, ond bod angen cymorth arnoch, ffoniwch ni ar (01633) 656656 a gallwn roi gwybod pa gymorth lleol sydd ar gael.

Cysylltwyr Cymunedol

 Mae ein Cysylltwyr Cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am y cymorth sydd ar gael, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau lleol a chwrdd â mwy o bobl yn eich cymuned. 

E-bost: [email protected] 

Cynnyrch mislif am ddim 

Fel rhan o'i rhaglen urddas mislif mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid ar gyfer darparu cynnyrch mislif am ddim i bawb sydd eu hangen, waeth beth fo'u hoedran neu gefndir. Mae'r cyngor yn dosbarthu cynnyrch drwy ysgolion, sefydliadau ieuenctid, banciau bwyd a sefydliadau cymunedol. 

Gall sefydliadau sydd eisiau cyflenwi cynnyrch mislif, neu unrhyw un sydd eisiau mwy o wybodaeth, anfon e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01633 656656 

Y Dreth Gyngor

Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu'ch treth gyngor, cysylltwch â ni.  Gorau po gyntaf i chi wneud cais fel y gallwn weithio gyda'n gilydd i'ch helpu drwy unrhyw anawsterau. 

Efallai y byddwn yn gallu cynnig cynllun talu amgen, efallai y gallwch ohirio taliadau, neu os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, efallai y gallwch wneud cais am ostyngiad y dreth gyngor. 

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)

Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.  

Dim ond am gyfnod byr y dyfernir y taliadau hyn fel arfer. 

Gwasanaeth cynhwysiant ariannol 

Cymorth gyda rheoli arian a chyllidebu, mynediad at fudd-daliadau a chymorth i’w rheoli, cyfeirio a chysylltu â gwasanaethau dyledion, gwneud cais am dariffau cymdeithasol is, ceisiadau grant. Agored i unrhyw un sydd ag angen tai trwy Porth Casnewydd [email protected] neu ffoniwch 01633 656656

Cymorth cyflogaeth a hyfforddiant

Mae'r timau yn ein hybiau cymdogaeth yn cynnig gwasanaeth cynghori yn y gymuned a all eich helpu i gael gwaith neu hyfforddiant.  Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol i gefnogi pobl i gael swyddi newydd. 

Mae gwasanaethau eraill a ddarperir gan yr hybiau yn cynnwys cymorth i deuluoedd, llyfrgelloedd a dysgu oedolion. 

Cyngor ar ddigartrefedd a thai

Os ydych yn ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu os oes angen cyngor ar dai arnoch, cysylltwch â ni

Mae cymdeithasau tai Casnewydd hefyd yn cynnig cyfoeth o gyngor a chefnogaeth i denantiaid. Dyma'r cymdeithasau:

Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol am gymorth.