Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor i drigolion Casnewydd ar gyfer ymweliadau a drefnwyd ymlaen llaw yn unig.

Cynllun a rheolau safle

Archebu ymweliad â'r CAGC

Bydd CAGC ar gau ar 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr yn unig a bydd yn gweithredu yn ôl ei oriau agor arferol drwy gydol gweddill cyfnod y Nadolig. 

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Casnewydd ym Maesglas ym mynedfa’r safle tirlenwi oddi ar gylchfan y SDR (A48).

Oriau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener: 7.30am - 6pm

Dydd Sadwrn a dydd Sul: 8am - 6pm 

Cyfeiriad

Docks Way, Maesglas, Casnewydd, Gwent NP20 2NS (peidiwch â defnyddio hwn ar gyfer llyw lloeren).

Dod o hyd i'r Ganolfan Ailgylchu ar fapiau Fy Nghasnewydd.   

Newidiadau i ddidoli gwastraff

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cyflwyno didoli gwastraff cymysg yn y ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref i gynyddu ailgylchu a lleihau gwastraff diangen.

O 1 Ebrill 2020, bydd angen i breswylwyr naill ai ddidoli gwastraff cyn ymweld neu ddefnyddio man didoli pwrpasol i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu tynnu a'u rhoi yn y cynwysyddion perthnasol. 

Bydd gofyn i'r trigolion sy'n dod â bagiau du, cynwysyddion neu drelars gwastraff cymysg i'r CAGC gyflwyno'r cynnwys i'r gweithwyr a dangos nad oes eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael eu gwaredu. 

Argymhellir yn gryf eich bod yn gwahanu eich gwastraff gartref er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei drin yn gyflym ac yn effeithlon.

Gweler Cwestiynau cyffredin (pdf)

Dysgwch yr hyn y gellir ei ailgylchu yn y Ganolfan Ailgylchu

Caiff preswylwyr Casnewydd ddefnyddio’r safle am ddim a chant hefyd ailgylchu yn un o ganolfannau ailgylchu Casnewydd.

Mae’n bosibl y gofynnir i breswylwyr â gwastraff heb ei drefnu, neu sy’n defnyddio trelar, gyflwyno tystiolaeth eu bod yn byw yng Nghasnewydd a dangos cynnwys eu bagiau i sicrhau na chaiff deunydd ailgylchu ei anfon i dirlenwi.

Caiff preswylwyr Casnewydd adael nid mwy na phedwar bag bin o wastraff y cartref heb ei drefnu os na ellir ailgylchu’r deunydd go iawn. 

Safle tirlenwi

Mae’r safle tirlenwi ar gyfer cwsmeriaid masnachol a phreswylwyr sy’n defnyddio cerbydau mawr, trelars neu faniau.

Oriau agor

Dydd Llun – dydd Iau: 7:30am – 3:30pm (cofnod olaf 2:45pm)

Dydd Gwener: 7:30am – 3:00pm (cofnod olaf 2:15pm)

Dydd Sadwrn: Ar gau

Dydd Sul: Ar gau

Gwyliau’r Banc: Ar gau

Gweld y costau presennol ar gyfer tirlenwi.