Diogelu teithwyr agored i niwed

Mae Bwrdd Diogelu Plant De-ddwyrain Cymru wedi cynhyrchu Taflen Wybodaeth am Ddiogelu (pdf) i sicrhau bod gyrwyr trwyddedig yn ymwybodol o unrhyw anghenion sydd gan y plentyn, y person ifanc neu'r person agored i niwed y maen nhw'n ei gludo.

Dilynwch yr Arfer Diogelu Da hwn i helpu i amddiffyn teithwyr agored i niwed.

  1. Ar ddechrau'r daith, gwiriwch a oes problemau gan unrhyw un o'ch teithwyr, a allai olygu eu bod yn agored i niwed, fel y gallwch baratoi ar gyfer y daith yn y ffordd gywir:
  • a oes angen cymorth arbenigol i sicrhau diogelwch y teithwyr neu'r gyrrwr?
  • a oes unrhyw gyflyrau iechyd (e.e. asthma, epilepsi) a allai effeithio ar y teithwyr yn ystod y daith?
  • a oes gan deithwyr anableddau sy'n golygu bod angen cymorth i fynd i mewn i'r cerbyd neu ddod allan ohono?

 DS: nid cyfrifoldeb y gyrrwr yw rhoi meddyginiaeth

2. Gofynnwch i'ch gweithredwr p'un a fydd angen hebryngwr ar gyfer y daith ac a fydd yn darparu hebryngwr.

3. Peidiwch byth â dechrau'r daith heb gyfeiriad penodol ar gyfer pen y daith.

4. Rhowch wybod i'ch gweithredwr (neu cadwch eich cofnod eich hun) o'r amser pan wnaethoch chi godi'r teithiwr agored i niwed ac amser a lleoliad gollwng y teithiwr, a ph'un a fu unrhyw ddigwyddiad neu unrhyw beth arwyddocaol yn ystod y daith.

5. Os byddwch chi'n gwrthod cludo teithiwr, rhowch wybod i'ch gweithredwr fel y gall gynnig ateb arall e.e. aelod o'r teulu, staff ysgol.

6. Cofnodwch bob digwyddiad a gwrthodiad, gan gynnwys disgrifiad o beth ddigwyddodd ac unrhyw bryderon a oedd gennych.

7. Byddwch yn broffesiynol bob amser, ceisiwch beidio â bod yn orgyfeillgar na siarad am faterion personol, a pheidiwch â chyfnewid rhifau ffôn personol na manylion cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

8. Peidiwch â rhegi nac ymddwyn mewn ffordd ymosodol.

9. Peidiwch â chyffwrdd â'ch teithwyr.

10. Peidiwch byth â derbyn cynnig o ffafr rywiol yn lle taliad.

11. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwisgo'ch bathodyn adnabod dilys ar gyfer cerbyd hacni neu logi preifat bob amser pan fyddwch yn gweithio.

12. Rhowch deithwyr unigol i eistedd yn y cefn oni bai y cytunwyd yn wahanol - mae'n rhaid bod teledu cylch cyfyng wedi'i awdurdodi gan y cyngor mewn cebyd hacni os byddwch chi'n cludo teithwyr yn y sedd flaen. 

13. Peidiwch byth â dilyn teithiwr i mewn i dŷ oni bai y cytunwyd ar hynny o flaen llaw neu eich bod wedi cael caniatâd i wneud hynny.

14. Gofynnwch i'ch teithiwr cyn gwneud taith yn fyrrach trwy droi oddi ar y briffordd neu ddefnyddio ffordd unig.

15. Peidiwch byth â rhannu taith sydd wedi'i threfnu â theithiwr arall, hyd yn oed os yw'n mynd i gyfeiriad tebyg, oherwydd gallai'r teithiwr arall fod yn fygythiad i'r teithiwr agored i niwed.

16. Os oes gennych unrhyw bryderon am ymddygiad gyrrwr arall, rhowch wybod i un o'r canlynol:

  • Gofynnwch am y tîm asesu ac ar ddyletswydd yng Nghyngor Dinas Casnewydd
  • Ffoniwch y tîm argyfwng y tu allan i oriau, ar 0800 328 4432

Os oes perygl uniongyrchol o niwed ac mae angen gweithredu ar frys, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu