Archebu bagiau a biniau newydd
Rhaid gwneud ceisiadau am sachau hylendid a bagiau ailgylchu ychwanegol, cadis bwyd a blychau ailgylchu ar-lein. Dim ond o'r lleoliadau canlynol y mae bagiau gwastraff bwyd ar gael.
Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd o’r lleoliadau canlynol ledled y ddinas heb yr angen i wneud cais amdanynt ar-lein.
- Y Llyfrgell Ganolog
- Llyfrgell Malpas
- Llyfrgell Ringland
- Llyfrgell Tŷ-du
- Llyfrgell Sain Silian
- Llyfrgell Tŷ Tredegar
- Llyfrgell Maindee
- Canolfan Gymunedol Hatherleigh
- Canolfan Gymunedol Maesglas
- Canolfan Gymunedol Ringland
- Canolfan Gymunedol Rivermead
- Neuadd y Dref Caerllion
- Prif Dderbynfa'r Ganolfan Ddinesig
- Siop Ailddefnyddio Wastesavers ym Maendy
Gwneud cais am finiau, bagiau a blychau ailgychu
Gallwch hefyd gasglu bagiau cadi bwyd o’ch llyfrgell leol, yr Orsaf Wybodaeth a, rhwng dydd Llun a dydd Gwener o 8am tan 6pm, o’r brif dderbynfa yn y Ganolfan Ddinesig.
Biniau gwastraff mawr
Caiff aelwydydd sy’n cynnwys chwech o bobl neu fwy ofyn am fin gwastraff mwy.
Gwneud cais am fin gwastraff mwy
Casgliadau cewynnau a gwastraff hylendid
Gall trigolion sy’n defnyddio padiau anymataliaeth neu sydd â chyflyrau iechyd sy’n creu gwastraff tebyg wneud cais am gasgliad ychwanegol ar gyfer gwastraff hylendid.
Gwnewch gais am gasgliad cewyn neu hylendid