Masnachu ar y stryd

Os ydych chi'n gwerthu neu'n cynnig gwerthu unrhyw eitem ar y stryd, efallai bydd angen trwydded arnoch. 

Mae'r holl strydoedd o fewn ffiniau dinas Casnewydd yn 'strydoedd cydsyniad' ac mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau gwerthu eitemau o drelar neu stondin ar y stryd gael cydsyniad masnachu ar y stryd yn gyntaf.

Bydd angen i fasnachwyr stryd sy'n gwerthu bwyd poeth ar ôl 11.00pm gael trwydded o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 hefyd. 

Nid oes angen cydsyniad masnachu ar y stryd arnoch:

  • os ydych chi'n masnachu fel pedler o dan drwydded a roddwyd gan awdurdod heddlu

  • os ydych chi'n fasnachwr marchnad sy'n gweithredu ar safle marchnad drwyddedig

  • os ydych chi'n werthwr papurau newyddion sy'n gwerthu papurau newyddion a chyfnodolion yn unig

Gwneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd 

Gwneud cais am ADNEWYDDU caniatâd masnachu ar y stryd 

Lawrlwytho Polisi'r Cyngor ar Fasnachu ar y Stryd (pdf) 

Ffioedd masnachu ar y stryd 2023/24

Masnachwr  

Ffi gychwynnol      

Masnachwr symudol    

Statig 

Dyddiol

£0

£59.28

£59.28*

Wythnosol

£0

£118.56

£118.56*

Misol

£64.89

£155.53

£328.64

Tri-Misol

£196.56

£196.56

£460.72

Blynyddol

£196.56

£394.16

£1052.48

Canol y ddinas

£196.56

N/A

£3289.52 (full year)

 

*Please see Section 1, Sub-Section 6 of the Street Trading Policy (pdf), re: Special Events.

*Gweler Adran 1, Is-Adran 6 Polisi Masnachu ar y Stryd Polisi Masnachu ar y Stryd(pdf), parthed: Digwyddiadau Arbennig.

Cysylltu

Gofynnwch am y tîm trwyddedu yng Nghyngor Dinas Casnewydd neu anfonwch e-bost at environment.licensing@newport.gov.uk