Tai

Cyngor ar ddigartrefedd a thai

Rydym yn gweithredu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn Llyfrgell Ganolog Casnewydd, Sgwâr John Frost i’r rhai sy’n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu sydd angen cyngor ar dai.

Mae'r gwasanaeth galw heibio ar gael ar gyfer asesiadau digartrefedd ac ymholiadau Cofrestr Tai rhwng 9am-1pm a 2pm-5pm.

Anfonwch e-bost i [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656 os ydych yn ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu os oes angen cyngor ar dai arnoch. Gallwn ni eich ffonio'n ôl os gofynnwch. 

Cynigir gwasanaeth y tu allan i oriau ar (01633) 656656.

Os ydym eisoes yn eich cefnogi fel rhywun digartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â'ch swyddog achos yn uniongyrchol trwy e-bost neu dros y ffôn.  Anfonwch y dogfennau y gofynnwyd amdanynt trwy e-bost os oes modd.

Home Options Casnewydd

Bydd hysbyseb wythnosol Home Options Casnewydd yn parhau i gael ei chyhoeddi bob dydd Gwener ac rydym yn gweithio gyda chymdeithasau tai partner i sicrhau bod dyraniadau'n mynd rhagddynt. 

Bydd y gymdeithas dai yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os cynigir eiddo i chi. 

Parhewch i gyflwyno eich ceisiadau am dai trwy wefan Home Options. Anfonir gohebiaeth trwy eich cyfrif Home Options neu e-bost os oes modd.

Anfonwch ymholiadau trwy neges we (trwy eich cyfrif Home Options) neu ffoniwch (01633) 656656.

Cymdeithasau tai

Mae swyddfeydd bellach ar gau i'r cyhoedd ac mae gwasanaethau'n cael eu darparu dros y ffôn, trwy e-bost neu yn unol â mesurau ymbellhau cymdeithasol. 

Cysylltwch â'r gymdeithas dai yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.

Lloches Nos

Ar hyn o bryd, nid yw Eden Gate yn gallu rheoli'r lloches nos yng Nghasnewydd yn ddiogel. Caiff hyn ei adolygu'n rheolaidd yn unol â chanllawiau Covid-19 y llywodraeth.  Cysylltwch â thîm digartrefedd y Cyngor uchod am gyngor, gwybodaeth a chymorth. 

Mae Eden Gate yn gweithio gyda'r Cyngor a darparwyr allgymorth eraill i barhau i ddarparu cymorth, llety, bwyd a nwyddau i'r rhai mewn angen.

Cymorth i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd

Mae'r Cyngor wedi cynnig llety i unrhyw un yr ydym yn ymwybodol ei fod yn cysgu ar y stryd. 

Mae ein tîm tai yn gweithio gyda Cefnogi Pobl, tîm Tŷ yn Gyntaf Pobl, y Wallich, Eden Gate, Byddin yr Iachawdwriaeth a'r Olive Branch i sicrhau bod llety, bwyd, eitemau cartref a chymorth yn cael eu darparu. 

Cynigir tri phryd o fwyd y dydd saith diwrnod yr wythnos, a'u dosbarthu gan ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol. 

Ceir toiledau a dillad gan ddarparwyr cymorth pan ofynnir amdanynt. 

Mae cymorth ar gyfer iechyd meddwl ar gael ar wefan MIND neu dros y ffôn ar 0300 123 3393.  Gellir cael cymorth a chwnsela iechyd meddwl arbenigol hefyd trwy asiantaethau partner a gwasanaethau iechyd sy'n cefnogi'r rhai sy'n cysgu ar y stryd. 

Bydd ein partneriaid yn parhau i roi cymorth allgymorth i'r rhai y cafwyd eu bod yn cysgu ar y stryd yng Nghasnewydd ac i bobl mewn llety sydd fel arfer yn cysgu ar y stryd. 

Gall unrhyw un sy'n profi digartrefedd gael cymorth, cyngor a gwybodaeth gan dîm cyngor ar dai a digartrefedd y Cyngor gan ddefnyddio'r manylion uchod.

Gallwch roi gwybod am fanylion unigolion sy'n cysgu ar y stryd trwy ddefnyddio gwefan Streetlink neu’r ap, sydd ar gael trwy'r wefan neu o'r siop appiau. Anfonir yr holl adroddiadau i'r Wallich i roi cymorth lleol.

Ar hyn o bryd mae Clinig Bellevue yn darparu gwasanaethau i bobl sy'n cysgu ar y stryd ac mae mewn cysylltiad â staff allgymorth.

Cysylltwyd â defnyddwyr gwasanaeth GSSMS (Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau Arbenigol Gwent) a dywedwyd wrthym sut i gael gafael ar gymorth a phresgripsiynau yn ystod pandemig Covid-19.

Mae GDAS (Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent) yn gweld cleientiaid ac yn rhoi cymorth diogel iddynt yn eu clinig gan ddilyn mesurau diogelwch. 

Porth Cymorth

Gellir parhau i gyflwyno ceisiadau am dai cymorth a chymorth yn ôl yr angen trwy'r porth cymorth.  

Mae timau Cefnogi Pobl Gwent yn darparu gwasanaeth 'siopa a gollwng' i'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghasnewydd.  

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656. 

Bydd tai cymorth yn parhau i gael eu rheoli gan ddarparwyr, yn unol â chanllawiau Covid-19. 

Iechyd yr Amgylchedd

Yng Nghasnewydd, mae Tîm Tai Iechyd yr Amgylchedd yn ymdrin â materion eang eu hystod i helpu i ddiogelu cyflwr tai ar draws pob deiliadaeth (rhentu preifat, gosodiadau cymdeithasol, anheddau perchen-feddianwyr ac anheddau gwag).

Rydym yn cynnig cyngor tai, cymorth gyda chyflwr tai a safonau gofynnol, niwsans cymdogaeth, iechyd y cyhoedd neu faterion amgylcheddol.

Edrychwch ar feysydd y gallwch gael cymorth ar ein tudalen we Iechyd yr Amgylchedd Tai.

Cefnogaeth Llety Dros Dro

Ffurflen gais cynhaliaeth Llety Dros Dro

Ffurflen ymholiad Llety Dros Dro

Ffurflen talu Llety Dros Dro

Cyfeiriwch at:

Gofyn am, a derbyn, canllawiau ar drwyddedu tai amlfeddiannaeth;

Gofyn am arolygiad neu wasanaeth cynghori cyn trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Gwybodaeth i landlordiaid, tenantiaid a myfyrwyr, atgyweiriadau a chynnal a chadw, diogelwch nwy a diogelwch trydan

Gweld Canllawiau Coronafeirws (Covid-19) Llywodraeth Cymru i landlordiaid ac asiantau sy’n rheoli yn y sector rhent preifat

Gofyn am arolygiad mewnfudo

Ar gyfer canllawiau a thrwyddedu cartrefi symudol a gwersylla

 

Hysbysiad preifatrwydd - Adnewyddu cymunedol (pdf)

Hysbysiad preifatrwydd - Llety Ellen Ridge (pdf)

Hysbysiad preifatrwydd - Cartrefi gwag (pdf)

TRA124481 02/09/2020
Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn…
Benthyciadau gwella'r cartref Grantiau i berchnogion tai  Tai â Chymorth
Llety i sipsiwn a theithwyr Tai Amlfeddiannaeth Local Housing Strategy (pdf)
Local Housing Market Assessment 2017-2022 (pdf) Landlordiaid Ymatebion Rhyddid Gwybodaeth - Tai