Hwb casglu sbwriel

Spring clean image march 2019 small

Gwnewch wahaniaeth a helpu i gadw eich cymuned yn lân ac yn ddiogel gyda hybiau casglu sbwriel Cadwch Gymru'n Daclus.

Ymunwch â grŵp cymunedol i lanhau ardaloedd yng Nghasnewydd neu, os credwch fod angen help ar eich ardal leol, dechreuwch eich grŵp eich hun.

Gallwch fenthyg offer gan gynnwys casglwyr sbwriel, cylchynau, siacedi llachar a bagiau bin gan eich Hyb Cadw Cymru'n Daclus lleol.

Mae'r cyfarpar yn cael ei fenthyg am ddim ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dod o hyd i'ch Hyb lleol
Dechrau casglu sbwriel

Os hoffech ddechrau’ch grŵp eich hun, cysylltwch â Cadwch Gymru'n Daclus a all gynnig cyngor i chi ar wneud hyn.