Teithio Cynaliadwy

I'r rhan fwyaf ohonom, mae'r ffordd yr ydym yn teithio o amgylch y ddinas yn gadael llwybr o sŵn a llygredd aer yn ogystal ag allyriadau carbon.

Mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd ac mae iddo ganlyniadau i bob un ohonom.

I osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd, dim ond 11 mlynedd sydd gennym i leihau ein hôl troed carbon.

Ansawdd aer - Mae llygredd aer yn cyfrannu at ystod o afiechydon sy'n bygwth bywyd sy'n effeithio ar blant ac oedolion ac yn achosi miloedd o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn.

Mae'r rhan fwyaf o lygredd aer yn dod o draffig ffordd, darllenwch fwy am ansawdd aer yng Nghasnewydd.   

Carbon deuocsid - Mae allyriadau carbon deuocsid a nwyon tŷ gwydr eraill yn achosi newidiadau enfawr yn ein hinsawdd.

I osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd, dim ond 11 mlynedd sydd gennym i leihau ein hôl troed carbon.

Yn y DU daw tua 27% o allyriadau carbon deuocsid o draffig ffordd.

Sŵn - Rydym wedi dod i arfer â lefel o sŵn traffig ffordd mewn ardaloedd trefol sy'n cyfrannu at ystod o afiechydon. 

Ewch i’r wefan Go Ultra Low am wybodaeth am gerbydau trydan.  

Strategaeth Teithio Cynaliadwy

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datblygu Strategaeth Teithio Cynaliadwy i fynd i'r afael ag ansawdd aer, lleihau carbon a sŵn.

Mae'r strategaeth yn seiliedig ar nifer o bynciau gyda chamau gweithredu o dan bob un ar lefel dinas ac, yn fuan, ar lefel leol.

Lawrlwythwch y Strategaeth Teithio Cynaliadwy (pdf)

Rhannwch eich sylwadau a'ch syniadau

Er mwyn helpu i lywio'r cam nesaf, mae angen eich help arnom i addasu'r ffordd rydym i gyd yn teithio a meddwl am y llygredd sy'n cael ei achosi gan y ffordd rydym yn teithio.

Lawrlwythwch a chwblhewch ein Templed Trafod Strategaeth Teithio Cynaliadwy (pdf)