Yr hyn rydym yn ei gasglu

Rydym yn casglu eich gwastraff bwyd ac ailgylchu sych bob wythnos.

Rydym yn casglu eich cewynnau a gwastraff hylendid bob pythefnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Rydym yn casglu eich gwastraff gardd bob tair wythnos (rhwng diwedd Chwefror a Thachwedd). 

Rydym yn casglu eich gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos.

Gwiriwch eich diwrnod casglu

Gwneud cais am gasgliadau gwastraff cewynnau a hylendid

 

Cymerwch olwg ar A-Y ailgylchu yng Nghasnewydd Wastesavers i weld beth allwch chi ei ailgylchu gartref.

A-Y ailgylchu yng Nghasnewydd Wastesavers

Os ydych chi'n cynhyrchu mwy o ailgylchu nag y gallwch ffitio yn eich cynwysyddion ailgylchu presennol, neu os yw'ch un chi wedi torri neu wedi mynd ar goll, gallwch archebu mwy.

Archebwch fwy o fagiau, biniau, blychau a chadis

Maint y bin safonol ar gyfer cartrefi â phedwar neu lai o bobl yw 120 litr.

Os oes gennych chi bump neu fwy o bobl yn byw yn eich cartref a’ch bod yn teimlo eich bod chi'n ailgylchu popeth y gallwch chi ond bod angen mwy o le arnoch o hyd ar gyfer eich gwastraff anailgylchadwy – gallwch gysylltu â ni i wneud cais am fin mwy.

Gwnewch gais am fin mwy

Os ydych chi’n cynhyrchu mwy o wastraff anailgylchadwy nag y gallwch ei ffitio yn eich bin i ni ei gasglu bob tair wythnos, gallwch fynd â'r gwastraff ychwanegol hwn i'n canolfan ailgylchu gwastraff y cartref, yn rhad ac am ddim.

Archebu ymweliad â'r canolfan ailgylchu gwastraff y cartref

Gwneud cais i gasglu eitem fawr neu swmpus

Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw fatris cartref bach, gallwch fynd â nhw i un o'r mannau canlynol:

  • Llyfrgell Betws    
  • Llyfrgell Caerllion
  • Y Llyfrgell Ganolog
  • Llyfrgell Malpas
  • Llyfrgell Pilgwenlli
  • Llyfrgell Ringland
  • Llyfrgell Tŷ-du
  • Canolfan Ailddefnyddio Wastesavers (138-142 Heol Cas-gwent)

Cysylltwch ag aelod o'n tîm ymgysylltu a gorfodi pwrpasol i gael cyngor ac arweiniad i'ch helpu i ailgylchu'n fwy effeithiol.

Cysylltwch ag aelod o'n tîm ymgysylltu a gorfodi

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddidoli ein gwastraff a'i roi yn y cynwysyddion perthnasol, yn barod i ni ei gasglu i’w ailgylchu.

O dan Adran 46 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (1990), gallwn roi dirwyon mewn rhai amgylchiadau lle mae preswylwyr yn torri ein Canllaw Casglu Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu.

Darllenwch ein Canllaw Casglu Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu