Cysylltwyr Cymunedol
Mae cysylltwyr cymunedol yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau ar draws ardal Casnewydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor am y cymorth sydd ar gael, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau lleol a chwrdd â mwy o bobl yn eich cymuned.
E-bost: community.connectors@newport.gov.uk
Gweler ein cylchlythyr (pdf) i gael gwybodaeth am grwpiau, prosiectau a gwasanaethau lleol.
Mae Dewis Cymru yn darparu gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal chi.
Cymorth i ofalwyr
Os ydych yn gofalu am rywun nad yw'n gallu ymdopi gartref heb gymorth, gall ein cysylltwyr cymunedol eich helpu i gael gwybod am wasanaethau a gweithgareddau cymorth lleol, darparu gwybodaeth am fudiadau gwirfoddol a'ch helpu i ail-gysylltu â'ch cymuned.
Darllenwch fwy am ein cymorth i ofalwyr.
Grwpiau Cyfeillgarwch
Mae grwpiau Chatty Café Connector ar gau hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol.
Rydym yn hyrwyddo grwpiau cymdeithasol lleol, beth am ddweud wrthym am eich grŵp?
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch community.connectors@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656 a gofyn am y cysylltwyr cymunedol.