Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf

pexels-jill-wellington-3309663

Sylwch - caewyd ceisiadau ar-lein am 5pm ar 28 Chwefror 2023.

Bydd Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf 22/23 yn darparu taliad arian parod untro o £200 i un aelod o'r cartref sy'n gyfrifol am filiau cyfleustodau.

Rydym wedi rhoi taleb i bawb sy'n derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor ar 4 Hydref 2022.

Os nad ydych yn derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor, neu os aseswyd eich cais ar ôl 4 Hydref ac nad ydych wedi cael taleb, neu’n derbyn un o’r budd-daliadau cymhwyso a restrir isod, gallwch wneud cais ar-lein tan 5pm ar 28 Chwefror 2023 erbyn clicio ar y ddolen isod a llenwi'r ffurflen gais.

Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd gymwys p'un a ydych chi’n talu am eich tanwydd ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.   Os nad ydych yn atebol am y Dreth Gyngor yn eich cartref, bydd angen prawf mai chi yw'r person sy'n gyfrifol am y biliau, a byddwch yn gymwys cyhyd â bod neb yn eich cartref eisoes wedi derbyn taliad.

Bydd y cynllun yn agored i aelwydydd lle mae ymgeisydd, neu ei bartner yn derbyn un o'r budd-daliadau cymhwyso ar unrhyw adeg rhwng 1Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor (CGDG)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau Treth Gwaith
  • Credydau Treth Plant
  • Credyd Pensiwn 
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Seiliedig ar Gyfraniad / Lwfans Ceisio Gwaith Math Newydd
  • Seiliedig ar Gyfraniad / Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Math Newydd

Os nad yw deiliad tŷ (neu ei bartner) sy'n atebol am y costau tanwydd yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau cymwys, dylid penderfynu / ystyried bod deiliad tŷ yn gymwys i gael taliad os oes ganddo berson cymwys yn byw gydag ef.

Mae person yn bodloni'r diffiniad o berson cymwys os yw’n:

  • Meddiannu cartref y deiliad tŷ fel ei brif breswylfa; ac
  • Yn blentyn dibynnol neu oedolyn sy’n ddibynnol ar y deiliad tŷ (neu ei bartner); a, 
  • Mae'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

 

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Costau byw: dysgwch fwy am gymorth a chyngor arall sydd ar gael yng Nghasnewydd 

 

Costau byw: dysgwch fwy am gymorth a chyngor arall sydd ar gael yng Nghasnewydd