Coronafeirws (COVID-19)

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn ac yn gweithredu arfer gorau fel y cynghorir gan y llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf gan Llyw.Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae ein canolfan gyswllt ar agor ar gyfer galwadau o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm, mae'r Orsaf Wybodaeth ar gau hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol.

Defnyddiwch ein ffurflenni ar-lein i adrodd neu ofyn am wasanaethau'r Cyngor.

Gwnewch ymholiad cyffredinol am COVID-19 ar-lein neu e-bostiwch [email protected]


 

Diogelu Cymru'r:

Darllenwch y canllawiau cyfredol.

Cefnogaeth ar gael

Mae COVID-19 wedi newid ein bywydau mewn sawl ffordd, sy’n golygu bod unrhyw gymorth bach ychwanegol yn bwysicach nag erioed.

Mae llawer o bobl heb ddeall y gallent fod â hawl i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt. Darganfod mwy.

Taliad hunanynysu

Gallech gael taliad os ydych wedi cael eich cynghori i hunanynysu i helpu gyda cholli enillion.

Darllenwch a gwneud cais am y taliad hunanynysu COVID-19 yma. 

Profi

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar bwy sy’n gymwys i gael prawf a sut i gael prawf ar wefan Llyw.Cymru

Brechlyn Covid-19

Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi cychwyn yng Nghymru. Bydd brechlyn diogel ac effeithiol yn cynnig diogelwch unigol rhag COVID-19, yn ogystal â rhagor o ddiogelwch i’n hanwyliaid a’n cymunedau.

Dysgwch fwy

Adferiad Strategol Casnewydd

Mae ein nodau adfer strategol yn nodi sut y byddwn yn parhau i adeiladu Casnewydd well drwy ddiogelu bywydau, cefnogi ein cymunedau a'r rhai sy'n agored i niwed, lleihau anghydraddoldeb, ac ailadeiladu ein heconomi.

Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Profi, Olrhain, Diogelu Covid-19 (pdf)