Panel Dinasyddion Gwent

Beth yw Panel Dinasyddion Gwent?

Grŵp o bobl sy'n byw yng Ngwent y gofynnir iddynt roi eu barn yn rheolaidd ac yr ymgynghorir â nhw ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw'r Panel Dinasyddion.

Dyma gyfle cyffrous i helpu i lunio gwasanaethau lleol a dweud eich dweud am benderfyniadau a materion pwysig yn y gymuned leol. Mae'r ymrwymiad yn isel - fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn cyfarfodydd bob dau fis ac ymgysylltu ar-lein fel arolygon neu adborth ar adroddiadau ac asesiadau. Gallwch ddewis y gweithgareddau rydych am gymryd rhan ynddynt.

Mae’r aelodau o’r Panel Dinasyddion hefyd yn derbyn cylchlythyrau yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gwneud Gwahaniaeth

Mae deall barn trigolion yn golygu ein bod yn gallu targedu adnoddau yn well a datblygu gwasanaethau sy'n bodloni anghenion pobl leol. Diben y panel yw canfod barn trigolion ar faterion a gwasanaethau lleol.

Mae hyn yn ein helpu i wneud y pethau iawn ac yn bwydo'n uniongyrchol i brosesau polisi a gwneud penderfyniadau. Rhoddir adborth gan y panel i Gynghorwyr ac uwch reolwyr, i'w helpu i wneud penderfyniadau sy'n fwy hyddysg i wella bywydau pobl y fwrdeistref.

Ffyrdd Eraill o Rannu Eich Barn

Mae'r Panel Dinasyddion yn un dull a ddefnyddiwn i ddeall barn trigolion yn well ledled Gwent. Byddwn yn parhau i wrando ar farn pobl drwy amryw o ffyrdd, gan gynnwys ymgynghori ar-lein, arolygon papur, galluogi'r cyhoedd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a thrwy Gynghorwyr lleol.

Cadw Gwybodaeth Bersonol yn Ddiogel

Os hoffech chi wybod mwy am sut rydym yn defnyddio ac yn storio'r wybodaeth a roddwch i ni, gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein polisi preifatrwydd.

Caiff y wybodaeth a roddwch ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni chaiff unrhyw wybodaeth a allai nodi unigolyn, sefydliad neu aelwyd ei rhyddhau pan fyddwn yn adrodd ar ganfyddiadau gweithgareddau ymgysylltu.

Hoffech chi ymuno â ni?

I ddod yn aelod o’r panel, rhaid i chi fod yn un o drigolion Gwent, a bod dros 16 oed. Os hoffech chi ymuno, cysylltwch â ni ar [email protected] neu 01495 761691

Os ydych yn aelod o'r panel dinasyddion yn barod a bod unrhyw un o'ch manylion cyswllt wedi newid, rhowch wybod i ni dros e-bost.