Tai Amlfeddiannaeth

Daeth Cynllun Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth 2019 (pdf) Cyngor Dinas Casnewydd i rym ar 1 Gorffennaf 2019 ac mae'n dod i ben ar 30 Mehefin 2024.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn adolygu ei gynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth i weld a ddylid ei ymestyn am bum mlynedd o fis Mehefin 2024.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tŷ Amlfeddiannaeth, cwblhewch ein harolwg ar-lein.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6 Chwefror 2024. Gweler y ddogfen ymgynghori sydd. (pdf)

Gweler  hysbysiad cyhoeddus y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol (pdf)

Mae’n rhaid i eiddo gael trwydded os oes tri neu fwy o bobl nad ydynt yn perthyn i'w gilydd yn ffurfio mwy na dwy aelwyd yn yr un adeilad.

Darllenwch am y math o eiddo sydd angen trwydded

Nod y cynllun trwyddedu yw sicrhau bod:

  • landlordiaid neu eu rheolwr yn bobl addas a phriodol

  • eiddo yn addas i fyw ynddo gan nifer y bobl a ganiateir o dan y drwydded

  • safon y gwaith o reoli’r Tai Amlfeddiannaeth yn addas

  • gellir nodi Tai Amlfeddiannaeth â risg uchel a'u targedu gyda golwg ar eu gwella

Cyn y gall y Cyngor roi trwydded, rhaid iddo benderfynu a yw deiliad arfaethedig y drwydded, y rheolwr arfaethedig neu unrhyw bersonau cysylltiedig yn berson addas a phriodol. Er mwyn gwneud hyn, bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw amgylchiadau a allai beryglu lles y tenantiaid a rheolaeth dda dros yr eiddo.  Rhaid iddo ystyried ymhlith pethau eraill:

  • Unrhyw euogfarnau blaenorol yn ymwneud â thrais, troseddau rhyw, cyffuriau, twyll neu anonestrwydd arall.
  • Os yw’r person wedi torri’r gyfraith yn ymwneud â thai neu faterion landlord-tenantiaid.
  • Os yw'r person wedi'i ganfod yn euog o wahaniaethu anghyfreithlon mewn cysylltiad â rhedeg busnes.
  • Os yw’r person wedi rheoli Tai Amlfeddiannaeth o’r blaen ac wedi torri unrhyw godau ymarfer cymeradwy neu wedi cael gwrthod trwydded.

Gellir gwrthod rhoi trwydded os na fodlonir y safonau perthnasol. Rhaid datgan pob erlyniad presennol ac arfaethedig fel rhan o'r prawf addas a phriodol. Ymdrinnir â'r prawf person addas a phriodol yn gyffredinol ym Mholisi Gorfodi Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor.

Os penderfynir eich bod chi neu gleient yn euog o redeg Tŷ Amlfeddiannaeth didrwydded, byddwn yn cyflwyno adroddiad addas a phriodol i Reolwr y Gwasanaeth Rheoleiddio (yr Amgylchedd a'r Gymuned) a byddwn yn ystyried y prawf addas a phriodol o dan Adran 66 o Ddeddf Tai 2004. Mae rhagor o wybodaeth am ein proses addas a phriodol wedi'i chynnwys yn ein Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer ceisiadau tai amlfeddiannaeth (pdf).

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch a ddylech ddatgan unrhyw euogfarnau o’r gorffennol, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Brawf leol, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu eich Cyfreithiwr. 

Mae’n rhaid i landlordiaid tai amlfeddiannaeth hefyd gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.

Gwasanaeth cynghori cyn trwydded

Rydym yn cynnig gwasanaeth cynghori cyn trwydded i bobl sy'n bwriadu trosi eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth.  

Gwneud cais am Drwyddedau Tai Amlfeddiannaeth

Darllenwch y canllawiau ceisiadau Tai Amlfeddiannaeth (pdf) cyn gwneud cais.

Mae’r canllawiau trwyddedau tai amlfeddiannaeth:

  • nodi diben trwyddedu

  • diffinio Tai Amlfeddiannaeth 

  • diffinio eithriadau trwyddedu

  • rhoi arweiniad ar wneud cais am Hysbysiadau Eithrio Dros Dro (pdf)

  • nodi gofynion rheoliadau adeiladu a chynllunio

  • dweud beth yw rhan y Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

  • manylu ar ofynion y gofrestr gyhoeddus Tai Amlfeddiannaeth

  • nodi ffioedd a chostau trwydded Tai Amlfeddiannaeth

  • rhoi arweiniad ar ddeiliad a rheolwr y drwydded

  • rhoi arweiniad ar benderfynu a yw person yn addas a phriodol

  • rhoi cyngor ar gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer trwydded tai amlfeddiannaeth

  • manylu ar ddogfennaeth ategol ar gyfer y cais am drwydded tai amlfeddiannaeth gan gynnwys Atodiad A: ffurflen datganiad o ddealltwriaeth (pdf)  

  • manylu ar y broses wneud cais am drwydded amlfeddiannaeth

  • nodi prif bwyntiau gorfodi trwyddedau

  • rhoi cyngor ar orchmynion ad-dalu rhent

  • rhoi cyngor ar fecanweithiau apelio

Darllenwch y Safonau Trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth (pdf) cyn gwneud cais. 

Mae’r Safonau Trwyddedau Tai Amlfeddiannaeth yn nodi:

  • safonau llety

  • egwyddorion cyffredinol meddiannaeth

  • gofyniad maint ystafelloedd

  • cyfleusterau ar gyfer ceginau, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd cawod, tai bach

  • gofynion gwresogi

  • diogelwch trydanol a socedi

  • storio gwastraff a hawliau

  • diogelwch tân

  • Dodrefn a gofynion dodrefnu

  • gofynion awyru

  • cyflyrau cyffredinol a threfniadau rheoli

  • archwiliadau tai - iechyd yr amgylchedd (gweler isod)

  • amodau trwyddedau tai amlfeddiannaeth (pdf)

  • Polisi gorfodi amddiffyn y cyhoedd (pdf)

  • gorfodi

  • Rhentu Doeth Cymru

Gwneud cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth newydd

Gwneud cais am Adnewyddu Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Mae fersiynau PDF o'r ffurflenni cais uchod ar gael ar gais.

Ffurflen Ymgymeriad HMO

Hysbysiad Eithrio Dros Dro HMO

Cais Rheolwr Tai Amlfeddiannaeth/Asiant HMO

Amrywiad Trwyddedu Ychwanegol HMO

Darllenwch am yr hyn a ddisgwylir gan reolwr tŷ amlfeddiannaeth a sut mae newid rheolwr 

Dan reolau llywodraeth gellir talu am y gost o roi'r cynllun trwyddedu ar waith drwy godi ffi fel y nodir yn y canllawiau uchod.

Mae’n rhaid i’r eiddo gydymffurfio â’r safonau a fabwysiadwyd gan y Cyngor a gallai fod angen caniatâd cynllunio hefyd am dai amlfeddiannaeth.

Dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd 1987), mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer tai a rennir gyda 3 neu fwy o breswylwyr neu eiddo sydd wedi'u haddasu yn fflatiau neu fflatiau un ystafell. 

Cyfrifoldeb y perchennog neu’r person sy’n rheoli’r eiddo yw sicrhau bod y gymeradwyaeth am reoliadau cynllunio neu adeiladu angenrheidiol wedi’u sicrhau.  

Mae’n drosedd dan Adran 72 (1) Deddf Tai 2004 i berson sy’n rheoli tai amlfeddiannaeth y mae gofyn iddo feddu ar drwydded ond nad oes trwydded ganddo a gall fod yn atebol am ddirwy anghyfyngedig os caiff ei ddedfrydu.

Rhentu Cartrefi

Mae'r ffordd yr ydych yn rhentu yn newid - i denantiaid a landlordiaid.

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

O 1 Rhagfyr 2022 bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae holl landlordiaid Cymru yn rhentu eu heiddo. Bydd yn gwella sut rydym yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Darllenwch fwy ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gorchmynion ad-dalu rhent

Mae gorchymyn ad-dalu rhent yn ffordd i denantiaid a chyn-denantiaid adennill hyd at werth 12 mis o rent pan fo landlord yn rhentu llety y dylai fod wedi’i drwyddedu ond nad yw wedi’i drwyddedu.

Fodd bynnag, rhaid i'r landlord gael ei ddyfarnu'n euog yn y llysoedd neu mewn tribiwnlys o gyflawni'r trosedd sef rhentu llety heb drwydded. Y Cyngor fydd yn cymryd achosion o'r fath.

Gall tenant neu gyn denant wneud cais i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl am orchymyn ad-dalu rhent i adennill hyd at werth 12 mis o rent gan y landlord. Cyfeiriwch at y daflen gyngor.

Lawrlwythwch y Canllaw i Denantiaid ar Orchmynion Ad-dalu Rhent (pdf)

Cofrestr trwydded gyhoeddus Tai Amlfeddiannaeth

Mae Deddf Tai 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr gyhoeddus o eiddo sydd wedi'i drwyddedu fel Tŷ Amlfeddiannaeth.  Mae'r ddolen isod yn darparu fersiwn gryno o'r gofrestr sy'n cael ei diweddaru'n wythnosol.

Gweld taenlen y Gofrestr Tai Amlfeddiannaeth (CSV)

Cyhoeddir gwybodaeth hefyd ar y System Mynediad Cyhoeddus sy'n darparu'r holl fanylion sydd eu hangen ar gyfer pob Tŷ Amlfeddiannaeth.

Cliciwch Tai Amlfeddiannaeth o'r maes categori ac yna chwilio a bydd rhestr o'r holl drwyddedau Tai Amlfeddiannaeth yn cael eu cynhyrchu.

Gallwch hefyd mireinio'r chwiliad drwy nodi manylion mewn blychau eraill, er enghraifft, nodi cyfeirnod y cais am drwydded benodol, nodi enw’r ward os ydych yn chwilio am ardal benodol, neu drwy deipio enw'r ffordd rydych yn chwilio amdani yn y blwch cyfeiriad y safle.

I wneud chwiliad gan ddefnyddio allweddair, defnyddiwch seren cyn ac ar ôl yr allweddair - e.e. *Jones Street* neu *Jones St*.  

HMO yn adrodd heb drwydded

Archwilio Tai Amlfeddiannaeth

Council officers will inspect a HMO either because the property has been assessed as being at risk, or after receiving a request for Environmental Health Housing to visit / receiving a complaint.

Yn ystod archwiliad byddwn yn cadarnhau a yw’r eiddo yn cydymffurfio ag amodau trwydded a’r Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth ac yn gwneud asesiad dan Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.

O 1 Ebrill 2024 bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn codi £32.40 os bydd y person y cytunwyd arno yn methu ag arddangos ar gyfer archwiliad HMO a gynlluniwyd ymlaen llaw neu os yw'n methu â rhoi 48 awr o rybudd i ni am ganslo. Perchennog sy'n gyfrifol am dalu'r tâl, hyd yn oed os yw wedi cyflogi asiant rheoli neu drydydd parti i gwrdd â ni yn yr eiddo.

Mae hyn yn cynnwys os na chaniateir mynediad i bob ystafell yn yr eiddo cyfan – gan gynnwys fflatiau ac ystafelloedd gwely unigol. Ni fydd y tâl yn cael ei godi os gwrthodir mynediad i ni gan y tenantiaid/deiliaid contract. Os ydych wedi derbyn e-bost gan Dîm Tai Iechyd yr Amgylchedd yn gofyn am daliad.

Talu'r tâl archwilio HMO

Cyswllt

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm iechyd yr amgylchedd.