Eiddo sydd angen trwydded

Tai a rennir

Pan fo preswylwyr yn cydfyw fel grŵp, pob un gyda’i ystafell wely ei hun ond yn rhannu’r holl gyfleusterau eraill gan gynnwys man byw cymunedol.

Fflatiau un ystafell

Pan fo preswylwyr yn rhannu ystafell ymolchi, tŷ bach, cegin ac ati ond fel arall yn byw yn annibynnol i’r lleill.

Fflatiau hunangynhaliol wedi’u haddasu

Pan nad yw’r addasiad yn bodloni gofynion Rheoliadau Adeiladu 1991 ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau yn eiddo i berchen-feddianwyr.

Mae preswylwyr yn byw mewn uned hunangynhaliol, heb rannu unrhyw gyfleusterau nac amwynderau, yn aml y tu ôl i un drws mynediad oddi ar ardal gymunedol.

Fflatiau unigol gyda thri neu fwy o bobl nad ydynt yn perthyn i’w gilydd yn byw ynddynt

Pan fo preswylwyr yn cydfyw fel grŵp, pob un gyda’i ystafell wely ei hun ond yn rhannu’r holl gyfleusterau eraill gan gynnwys man byw cymunedol yn y fflat.

Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw'r eiddo wedi'i addasu ar sail Rheoliadau Adeiladu 1991.

Hosteli, gwestai, gwestai gwely a brecwast

Nid oes gan y preswylwyr unrhyw fan parhaol arall y maent yn byw ynddo yn y DU.

Mae’n cynnwys eiddo a ddefnyddir gan gynghorau lleol i roi cartref i’r digartref.

Landlordiaid preswyl

Landlord sy’n byw yn yr un adeilad â thri neu fwy o bobl eraill nad ydynt yn perthyn i’w gilydd.

Hefyd unrhyw gyfuniad o’r mathau o eiddo a nodir uchod sy’n rhan o’r un adeilad.

Mae trwyddedau tai amlfeddiannaeth yn berthnasol i nifer y bobl nad ydynt yn perthyn i’w gilydd sy’n preswylio mewn eiddo ac nid yw cytundebau cyd-denantiaeth, cytundebau gosod eiddo cwmni, cyfrifoldebau taledigion y dreth-gyngor, hawlwyr Budd-dal Tai, y digartref yn effeithio arnynt.

Aelwydydd unigol

Mae adran 258 Deddf Tai 2004 yn cynnwys esboniad o achosion pan nad yw pobl yn ffurfio aelwyd unigol. 

I gael eu hystyried yn aelwyd unigol, mae’n rhaid i bobl fod yn aelod o’r un teulu, gan gynnwys parau priod, neu'r rheiny sy'n byw fel gŵr a gwraig, gan gynnwys y rheiny sy'n rhan o berthynas o'r un rhyw, neu phan fo un yn perthyn i'r llall, e.e. rhiant, tad-cu neu fam-gu, plentyn, ŵyr neu wyres, brawd, chwaer, modryb, nai, nith neu gefnder, a hanner-perthnasau, llysblant a phlant maeth.

Eithriadau

Mae sawl eithriad dan Ddeddf Tai 2004, gweler tudalen dau o HMO Guidance Notes (pdf).