Cartrefi gwag
Mae angen mwy o dai ar Gasnewydd. Os caiff cartrefi preifat eu gadael yn wag mae mwy o bwysau i ddatblygu ar safleoedd tir glas.
Cyflwynodd y Cyngor y Strategaeth Cartrefi Gwag er mwyn nodi'r rhesymau pam y mae cartrefi'n cael eu gadael yn wag a helpu perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Drwy'r strategaeth hon, rydym yn gweithio gyda pherchnogion, asiantaethau partner a thrigolion lleol i leihau effaith cartrefi gwag ar y ddinas a bodloni’r angen cynyddol am dai.
Darllenwch ein Strategaeth Cartrefi Gwag (pdf)
Gallwch weld ystadegau ar sut mae'r strategaeth wedi helpu i leihau nifer y cartrefi gwag yng Nghasnewydd yma.
Manylion Cyswllt
I gael trafodaeth anffurfiol am eich eiddo gwag, e-bostiwch emptyhomes.team@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 656656 a gofynnwch am y Tîm Strategaeth a Chyflawni Tai.
Dywedwch wrthym am eiddo gwag
Mae cartrefi sy'n cael eu gadael yn wag am amser hir yn tueddu i ddirywio. Gall cartrefi gwag hirdymor hefyd achosi problemau i gymdogion a'r gymuned leol. Gall gardd sydd wedi gordyfu, post y tu ôl i'r drws ac ymddangosiad o fod wedi'i esgeuluso’n gyffredinol, ddenu fandaliaeth neu drosedd.
Os bydd materion yn codi, mae gan y cyngor bwerau statudol i weithredu os oes gwir angen gwneud hynny. Fel arfer, gofynnir i'r perchennog unioni’r broblem yn gyntaf, oni bai ei fod yn argyfwng.