Deddf Rhentu Tai Cymru

Mae'r ffordd rydych chi'n rhentu yn newid - i denantiaid a landlordiaid.

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

O 1 Rhagfyr 2022 bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu eu heiddo. Bydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru. 

Ar bwy bydd y gyfraith newydd yn effeithio?

Bydd pob tenant cymdeithasol a phreifat yn gweld rhai newidiadau:

  • yn y ffordd y darperir eu contractau
  • yn y ffordd y mae eu cartrefi'n cael eu cynnal
  • i sut maen nhw'n cyfathrebu â'u landlordiaid

Bydd angen i bob landlord cymdeithasol a phreifat, gan gynnwys y rhai sy'n rhentu eu heiddo drwy gwmnïau neu asiantau rheoli, wneud y canlynol:

  • cydymffurfio â'r gyfraith newydd
  • gwneud y diweddariadau angenrheidiol i'w heiddo a'u gwaith papur

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Tenantiaid

Dan y ddeddf newydd, bydd tenantiaid a thrwyddedau yn dod yn 'ddeiliaid contract'. Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan ‘gontractau meddiannaeth’

Bydd y gyfraith newydd yn gwneud rhentu'n haws ac yn rhoi mwy o ddiogelwch.

I ddeiliaid contract, bydd hyn yn golygu:

  • derbyn contract ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a'ch cyfrifoldebau
  • cynnydd yn y cyfnod hysbysiadau heb fai o ddau i chwe mis
  • mwy o amddiffyniad rhag cael eich troi allan
  • gwell hawliau olyniaeth, mae'r rhain yn nodi pwy sydd â'r hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i'r tenant presennol farw
  • trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud hi'n haws ychwanegu neu dynnu eraill at gontract meddiannaeth

Landlordiaid

I landlordiaid, bydd hyn yn golygu:

  • System symlach, gyda dau fath o gontract: 'Wedi’i sicrhau' i'r sector rhent cymdeithasol a 'Safonol' ar gyfer y sector rhent preifat
  • Sicrhau bod cartrefi'n addas i bobl fyw ynddyn nhw (FfIFYG). Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, cynnal profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid wedi’u gosod ac yn gweithio. 
  • Gellir adfeddiannu eiddo gadawedig heb fod angen gorchymyn llys.

Ydy'r gyfraith wedi newid o ran larymau mwg?

Ydy. Nodir y gofynion newydd yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i Fod yn Gartref)(Cymru) 2022.

Mae Rheoliad 5 yn dweud: (1) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd:

  • mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,
  • wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac
  • wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.

Felly, er nad yw'n ofyniad bod pob larwm mwg mewn eiddo wedi'i gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, rhaid i o leiaf un larwm mwg ar bob llawr o'r annedd fod.

Ar yr amod bod y gofyniad hwn yn cael ei fodloni nid oes dim i atal larymau ychwanegol sy'n cael eu pweru gan fatri rhag cael eu gosod, nad yw’n (gan nad ydynt wedi’u cysylltu â gwifrau) orfod iddynt fod yn gysylltiedig.

Ar gyfer contractau newydd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, bydd angen i landlordiaid sicrhau bod eiddo y maent yn eu gosod yng Nghymru gydymffurfio â'r gofynion hyn. Ar gyfer tenantiaethau a oedd yn bodoli cyn 1 Rhagfyr 2022, bydd gan landlordiaid 12 mis i gydymffurfio â'r gofynion hyn (h.y. erbyn 1 Rhagfyr 2023).

Ydy'r gyfraith wedi newid o ran larymau carbon monocsid?

Ydy. Nodir y gofynion newydd yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i Fod yn Gartref)(Cymru) 2022.

Dywed Rheoliad 5, ymhlith pethau eraill: Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.

Rhaid i'r landlord sicrhau bod synhwyrydd carbon monocsid yn cael ei osod. 

Ydy'r gyfraith wedi newid mewn perthynas â gosodiadau gwasanaeth trydanol? 

Ydi. Nodir y gofynion newydd yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd i Fod yn Gartref)(Cymru) 2022.

Dywed Rheoliad 5, ymhlith pethau eraill, bod:

(1) Rhaid i'r landlord sicrhau bod adroddiad cyflwr trydanol dilys mewn perthynas â'r annedd yn ystod pob cyfnod o feddiannaeth.

Felly, rhaid i’r gosodiadau gwasanaeth trydanol gael archwiliad diogelwch, yn unol â Safon Brydeinig BS7671, gan berson cymwys bob 5 mlynedd neu cyn hynny pan fo archwiliad trydanol blaenorol wedi gwneud argymhelliad o’r fath.  Gelwir hyn yn 'archwilio a phrofi cyfnodol' (PIT). Rhaid rhoi copi o'r adroddiad cyflwr sy'n nodi canlyniadau archwiliad diogelwch trydanol i ddeiliad y contract.  Yn ogystal, rhaid i chi roi cadarnhad ysgrifenedig i ddeiliad y contract o'r holl waith ymchwilio ac adferol a wneir ar y gosodiadau gwasanaeth trydanol o ganlyniad i archwiliad. 

Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ar y newidiadau sy'n ymwneud â'r gyfraith newydd, ewch i Wefan Llywodraeth Cymru neu Rhentu Doeth Cymru