Gwasanaeth cynghori cyn trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth

Os ydych chi’n berchen ar eiddo neu'n meddwl prynu eiddo i'w droi'n Dŷ Amlfeddiannaeth mae'n debygol bod angen trwydded arno.

Gallwn ni gynnig gwasanaeth cynghori i'ch helpu i gael trwydded mor hawdd â phosib.

Am ffi o £238.37 ynghyd â TAW (Cyfanswm o £286.04 gan gynnwys TAW) byddwn ni'n gwneud y canlynol:

  • Archwilio’r eiddo
  • Eich cynghori o ran gofynion a phroses trwyddedau tai amlfeddiannaeth
  • Eich helpu gyda’r ffurflen gais
  • Rhoi atodlen waith a chynllun llawr i chi i’w hystyried

Os ydych yn ystyried dau ddewis ar gyfer yr eiddo h.y. tŷ a rennir neu fflat un ystafell, bydd gofyn i chi gael atodlen waith a chynllun llawr ychwanegol gan y bydd rhaid paratoi cynlluniau a chyfleusterau gwahanol.

Am ffi o £270.50 ynghyd â TAW (Cyfanswm o £324.60 gan gynnwys TAW) byddwn ni’n paratoi dwy atodlen a chynlluniau llawr gwahanol.  

Os ydych yn ystyried mwy na dau opsiwn ar gyfer yr eiddo bydd ffi ychwanegol o £59.45 ynghyd â TAW (Cyfanswm o £71.31 gan gynnwys TAW) ar gyfer pob cynllun ychwanegol a gynigir yn cael ei godi.

Cwblhau ffurflen archwiliad Cyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Word doc)

Gwnewch gais ar-lein

Cwblhau ffurflen archwiliad Cyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (pdf)

Cwblhau ffurflen archwiliad Cyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth  (Word)

Byddwn yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i archwilio’r eiddo a byddwch yn cael yr atodlen waith a chynllun llawr cyn pen tair wythnos o’r archwiliad.

Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen a’r Tŷ Amlfeddiannaeth bydd gofyn i chi hefyd wneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth.

Mae’n rhaid i eiddo rhent boed yn Dŷ Amlfeddiannaeth neu dŷ a osodir yn unigol fod wedi'i gofrestru dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 drwy Rhentu Doeth Cymru.

Mae’n rhaid i landlordiaid preifat sy’n cyflawni gweithgareddau gosod a rheoli, neu eu hasiantau rheoli wneud cais am hyfforddiant a thrwydded oddi wrth Rhentu Doeth Cymru.

Rheoliadau cynllunio a rheoli adeiladu

Bydd rhaid i eiddo preswyl sy’n newid defnydd i Dai Amlfeddiannaeth ac addasiadau eraill gael caniatâd cynllunio ac, o bosib, cymeradwyaeth rheoli adeiladau.

Mae perchennog yr eiddo, neu eraill sy'n rheoli'r eiddo, yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl gymeradwyaeth cynllunio neu reoli adeiladu angenrheidiol wedi'u cael.

Nid yw gwneud cais am archwiliad Tai Amlfeddiannaeth cyn trwyddedu yn golygu bod y caniatâd cynllunio neu reoliadau adeiladau sy’n ofynnol wedi’u sicrhau neu yn destun cais.

Bydd adran gynllunio Cyngor Dinas Casnewydd yn cael gwybod am y cais hwn, e-bostiwch [email protected] neu [email protected].