Diogelwch nwy

Os ydych chi’n gallu arogli nwy ffoniwch rif rhadffôn brys Nwy Cenedlaethol 0800 111 999

Os ydych chi’n fyddar neu'n drwm eich clyw defnyddiwch ffôn testun neu minicom 0800 371 787

  • Agorwch yr holl ffenestri a drysau er mwyn cael awyr iach ac awyru’r eiddo
  • Diffoddwch y ddyfais nwy a datgysylltwch y nwy drwy ddiffodd y cyflenwad yn y falf rheoli brys wrth y mesurydd nwy.
  • Peidiwch â defnyddio’r ddyfais nes bydd peiriannwr Diogelwch Nwy cofrestredig wedi’i wirio a'ch bod wedi cael cadarnhad bod y ddyfais yn ddiogel i'w defnyddio.
  • Peidiwch a chynnau unrhyw oleuadau na defnyddio unrhyw offer.
  • Diffoddwch unrhyw fflamau noeth
  • Cysylltwch â’r meddyg teulu neu ysbyty lleol os ydych yn teimlo’n sâl

Cysylltwch â Pheiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig  i wirio a thrwsio’r ddyfais neu ffoniwch 0800 408 5500.

Carbon Monocsid

{0>Carbon monoxide (or CO) is odourless, colourless, tasteless and can kill quickly, these steps will help to protect against CO poisoning.<}0{>Mae carbon monocsid (neu CO) yn ddi-arogl, ddi-liw a di-flas a gall eich lladd yn gyflym.  Bydd y camau canlynol yn eich helpu i'ch amddiffyn rhag gwenwyn CO.<0}

1. Adnabod y symptomau

Mae’r symptomau yn cynnwys llewyg, cyfog, teimlo’n benysgafn, diffyg anadl, cur pen a cholli ymwybod. 

Mae modd camgymryd gwenwyn CO lefel isel cronig am salwch arall megis y ffliw a gwenwyn bwyd.

2. Gofalu am eich dyfeisiau

Bwyleri, stofau, llosgwyr coed, gwresogyddion – dylid pob dyfais sy’n llosgi tanwydd gael ei drin yn rheolaidd gan berson cymwys cofrestredig.

3. Prynu larwm carbon monocsid

Gall y rhain gostio cyn lleied â £15 a bydd ganddynt fatri sy’n para tua phum mlynedd. Dylid gosod a phrofi larymau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

Beth mae’n rhaid i landlordiaid ei wneud...

Landlordiaid sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ddiogelwch eu tenantiaid ac mae Rheoliadau Diogelwch Nwyd (Gosod a Defnyddio) 1988 yn amlinellu dyletswyddau landlordiaid i sicrhau bod dyfeisiau, gosodiadau, simneai a ffliwiau nwy a ddarperir ar gyfer tenantiaid yn ddiogel.

Mae gwefan y Gofrestr Diogelwch Nwy yn esbonio’r prif gyfrifoldebau:

  • mae’n rhaid i landlordiaid roi copi o’r gwiriad i denantiaid cyn pen 28 diwrnod neu i denant newydd cyn iddyn nhw symud i mewn
  • mae’n rhaid i landlordiaid gadw cofnodion diogelwch nwy am ddwy flynedd
  • mae'n rhaid i landlordiaid sicrhau y cynhelir gwiriad nwy gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe ar bob dyfais nwy yn eu heiddo bob 12 mis.

Dylid ond defnyddio peirianyddion Diogelwch nwy cofrestredig neu ffoniwch 0800 408 5500.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn argymell yn gryf y dylid gosod larwm carbon monocsid sy’n cydymffurfio ag EN 50291.

Rhagor o wybodaeth i landlordiaid

Beth ddylai tenantiaid wneud...

Os bydd peiriannydd yn ymweld â'ch cartref dylech gadarnhau eu bod wedi'u cofrestru ac yn gymwys i wneud y gwaith drwy ofyn am weld eu cerdyn adnabod.

Gallwch gynnal gwiriad ar y peiriannydd drwy deipio’r rhif saith digid i mewn.

Chwiliwch am beiriannydd ar y gofrestr Diogelwch Nwy neu ffoniwch 0800 408 5500 neu decstio 85080.

I sicrhau y caiff y gwaith ei wneud, gadewch i’r peiriannydd ddod i mewn i’ch eiddo a chydweithiwch gyda'ch landlord. 

Os ydych yn pryderu am eich bwyler neu system wresogi, os yw eich cartref yn anodd ei wresogi neu fod eich cyflenwad wedi’i ddiffodd, cysylltwch â thîm tai amgylcheddol Cyngor Dinas Caerdydd i ofyn am gyngor.

Darllen rhagor o wybodaeth i denantiaid

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yng nghynllun effeithlonrwydd ynni NYTH.