Cynlluniau Prydlesu

Cynllun Prydlesu Cymru 

Mae Cynllun Prydlesu Cymru (CPC) yn gynllun prydlesu sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid yn y sector rhentu preifat (SRhP) brydlesu eu heiddo i'r awdurdod lleol am incwm rhent misol gwarantedig a gwasanaeth rheoli eiddo llawn am rhwng 5 ac 20 mlynedd. 

Mae grantiau ar gael i ddod ag eiddo i safon; bydd awdurdodau lleol yn rhoi canllawiau ychwanegol i landlordiaid. Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i ddod â’r eiddo i'r safon y cytunwyd arno a/neu i gynyddu’r sgôr TPY i C. Ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis, mae grantiau o hyd at £9,999 ar gael ar gyfer prydlesi pum mlynedd a hyd at £25,000 ar gyfer prydlesi hirach. 

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am eiddo o wahanol feintiau a mathau ar draws Casnewydd gan fod galw am amrywiaeth o dai. 

Os hoffech drafod y cynllun, cysylltwch â ni: 

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01633 656656 a gofyn am y Tîm Strategaeth Dai a Chyflawni 

Cynllun Prydlesu Cymru (pdf)

Cynllun Prydlesu'r Sector Preifat

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithredu Cynllun Prydlesu'r Sector Preifat.  Defnyddir eiddo a brydlesir o dan y cynllun fel llety dros dro ar gyfer aelwydydd digartref.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i'r Cyngor am o leiaf 12 mis ar rent gwarantedig a delir bob chwarter ymlaen llaw, p'un a yw'r eiddo wedi'i feddiannu ai peidio.

Bydd ein tîm rheoli tenantiaeth penodedig yn rheoli'r eiddo, yn cynnal archwiliadau eiddo rheolaidd, yn delio ag unrhyw atgyweiriadau o ddydd i ddydd ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ddychwelyd atoch ar ddiwedd y brydles mewn cyflwr rhesymol, heb unrhyw ôl traul.  

Ni fydd angen i chi dalu'r dreth gyngor ar yr eiddo yn ystod cyfnod y brydles ac ni fyddwch yn gyfrifol am filiau cyfleustodau.

Eiddo

Mae'r cynllun PSL yn cael ei reoli gan ein tîm Anghenion Tai ac mae gofynion yn newid yn ôl pwysau penodol. Os oes gennych chi eiddo gwag yng Nghasnewydd y mae gennych ddiddordeb mewn prydlesu i'r cyngor, cysylltwch â: [email protected] a fydd yn cysylltu â'r tîm i ganfod a oes angen y math hwn o eiddo. Os yw'r eiddo o ddiddordeb ar gyfer y portffolio PSL, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r tîm Anghenion Tai a fydd yn cysylltu â chi i drafod ymhellach. 

Nodwch, os oes gennych forgais ar yr eiddo bydd angen i chi wirio unrhyw ofynion sydd gan eich cwmni morgais a bydd angen yswiriant landlordiaid arnoch.