Benthyciadau Gwella Tai

Warm house - with scarf

Gall Cyngor Dinas Casnewydd gynnig dau fath o fenthyciad di-log i helpu i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

  • Benthyciadau landlordiaid 
  • Benthyciadau perchen-feddianwyr

Mae pob benthyciad gwella tai yn ddi-log er mwyn galluogi’r gwaith o atgyweirio neu wella cartrefi sengl, ailwampio eiddo gwag neu addasu eiddo amhreswyl gwag yn un uned neu fwy o lety preswyl.

Yr uchafswm o fenthyciad fesul fflat annibynnol neu dŷ yw £35,000, hyd at uchafswm o £250,000 fesul benthyciwr.

Mae benthyciadau’n amodol ar argaeledd y cyllid.

Benthyciadau landlordiaid

Mae benthyciadau di-log yn helpu landlordiaid ag eiddo yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd neu i gynnal gwelliannau i gartrefi â thenantiaid. 

Cynigir benthyciadau rhwng £1,000 a £35,000 fesul eiddo, am hyd at 10 eiddo.

Cyfnodau benthyciadau hiraf:

  • os ydych yn bwriadu gwerthu’r eiddo ar ôl gwneud y gwaith, rhaid ad-dalu’r benthyciad pan gaiff yr eiddo ei werthu neu o fewn dwy flynedd
  • os ydych yn bwriadu rhoi’r eiddo ar osod ar ôl cyflawni’r gwaith, neu os ydyw wedi’i feddiannu eisoes, rhaid ad-dalu’r benthyciad o fewn pum mlynedd drwy gyfrwng taliadau bob hanner blwyddyn

Lawrlwytho Diogel, Cynnes a Saff (pdf)

Sut i ymgeisio

Caiff pob benthyciad ei sicrhau gan dâl cyfreithiol (megis morgais) ar yr eiddo. Os oes gennych forgais ar yr eiddo eisoes, bydd rhaid i’ch rhoddwr benthyciad cyntaf gytuno ar ail dâl yn enw Cyngor Dinas Casnewydd.

Ni allwn wneud benthyciad os byddai’r gwerth, ynghyd ag unrhyw forgais presennol, yn dod i fwy na 80% o werth yr eiddo cyn bod y gwaith yn cael ei gyflawni.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, byddwn yn gofyn i chi geisio adroddiad gwerthuso gan syrfëwr siarter cofrestredig RICS.  

Benthyciadau perchen-feddianwyr

Benthyciadau di-log i helpu perchenogion tai cymwys yn ardal Cyngor Dinas Casnewydd i gynnal gwaith angenrheidiol i wella eiddo er mwyn gwneud cartrefi’n fwy diogel a chynnes. 

Mae’r benthyciad hwn ar gael i berchenogion tai cymwys a fydd yn meddiannu’r eiddo ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.

Cynigir benthyciadau rhwng £1,000 a £35,000, gyda chyfnod benthyciad hiraf o bum mlynedd.

Lawrlwytho Diogel, Cynnes a Saff (pdf)

Sut i ymgeisio

Gwnewch Gais Nawr

Anfonwch e-bost at [email protected] am ragor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais neu ffoniwch y Rheolwr Cyflenwi Tai ar (01633) 851715.