Tai myfyrwyr
Gall myfyrwyr sy'n dod i Gasnewydd i astudio ddewis byw naill ai ar gampws neu mewn llety preifat wedi'i rentu.
Llety Campws
Gweld llety ym Mhentref Myfyrwyr Casnewydd
Sut i wneud cais am lety ym Mhrifysgol De Cymru
Prifysgol De Cymru - llety myfyrwyr nyrsio
Llety preifat
Mae'n rhaid i lety preifat sy'n cael ei rentu gyrraedd safonau gofynnol cyn iddo gael ei feddiannu.
Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen Canllawiau ar dai amlfeddiannaeth
Cyngor cyffredinol
- ewch i weld sawl lle cyn penderfynu ble i fyw
- ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru i sicrhau bod y landlord wedi cofrestru ac yn drwyddedig
- edrychwch i weld a yw tŷ amlfeddiannaeth wedi'i drwyddedu
- gwnewch yn siwr eich bod yn cael cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig
- peidiwch ag arwyddo unrhyw ddogfennau cyn i chi ymweld â'r eiddo
- os bydd gwaith trwsio'n cael ei addo, gwnewch yn siwr bod hwnnw'n cael ei gwblhau cyn i chi arwyddo cytundeb tenantiaeth
- cadarnhewch pwy sy'n talu'r biliau cyfleustodau a'r dreth gyngor
-
os byddwch chi'n rhannu tŷ, dylech gael gwybod gyda phwy y byddwch chi'n byw a gofyn am gael cyfarfod â nhw os oes modd
-
os byddwch chi'n talu tâl cadw dros yr haf, holwch a oes hawl gennych aros yn yr eiddo
Cytundebau tenantiaeth
Mae cytundeb tenantiaeth yn ddogfen gyfreithiol rwymol sy'n eich gwneud chi'n gyfrifol am dalu'r rhent am y cyfnod cytunedig - dylai hwn fod yn gyfnod o chwe mis o leiaf.
Hyd yn oed os byddwch chi'n symud allan o'r eiddo cyn diwedd y contract, bydd y cytundeb wedi'i lofnodi yn bodoli o hyd a byddwch yn gyfrifol am dalu'r holl rent sy'n weddill.
Cysylltu
I gael cyngor ar amodau tai wedi'u rhentu'n breifat, rhoi gwybod am dŷ amlfeddiannaeth heb drwydded neu bryderon am dŷ amlfeddiannaeth, cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofyn am y tîm tai yn iechyd yr amgylchedd.