Cyngor Ynni ar gyfer y Cartref - Arbed Ynni, Arbed Arian, Achub y Blaned
Help gyda biliau ynni
Y ffordd gyflymaf o wneud arbedion ynni yw sicrhau eich bod ar y tariff gorau. Mae gan Ofgem ganllaw defnyddiol ar gyfer sicrhau eich bod yn cael y fargen orau.
Mae'r llywodraeth yn darparu budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd i gefnogi cartrefi gyda chost biliau ynni. Dysgwch fwy am:
Rhowch wybod i'ch cwmni ynni os ydych yn cael trafferth talu'r biliau oherwydd efallai y bydd yn gallu rhoi cymorth neu atebion.
Am fwy o gymorth gyda biliau ynni, ffoniwch Linell Gymorth Nyth i siarad â chynghorydd.
Ffoniwch radffôn 0808 808 2244 (Llun-Gwener 9am-6pm) neu gofynnwch am alwad yn ôl. Mae gwybodaeth ar gael ar eu gwefan.
Help gyda gwelliannau ynni i'r cartref
Gall buddsoddi mewn gwelliannau ynni i’r cartref eich helpu i leihau eich biliau ynni.
Gellir uwchraddio hen systemau gwresogi i leihau'r ynni sydd ei angen i gynhesu eich cartref a'ch dŵr.
Gellir disodli'r rhain gyda dewisiadau carbon is fel pympiau gwres ffynhonnell aer neu foeleri nwy mwy effeithlon.
Gall inswleiddio a defnyddio deunydd gwrth-ddrafft helpu i gadw aer cynnes yn y cartref a gall awyru helpu i reoli lleithder ac atal llwydni.
Gall paneli solar greu trydan gwyrdd am ddim i bweru eich cartref tra bydd yn heulog, a gall batri storio trydan dros ben i'w ddefnyddio yn y nos.
Mae amrywiaeth o grantiau a chynlluniau ar gael i gyfrannu at gost gosod mesurau gwella ynni.
Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr - Gall inswleiddio leihau cost gwresogi ac oeri trwy gadw aer cynnes yn y cartref. Mae cyflenwyr ynni yn ariannu gwelliannau inswleiddio mewn eiddo preifat neu ar rent, sydd â Thystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) rhwng D a G ac sydd mewn band treth gyngor A-E.
Cynllun ECO4 Flex - Mae cyflenwyr ynni yn ariannu system wresogi a gwelliannau effeithlonrwydd ynni eraill fel paneli solar ac insiwleiddio mewn cartrefi anodd eu cynhesu. Mae hyn yn targedu eiddo a chartrefi heb nwy a chartrefi â hen foeler aneffeithlon.
Cynllun Uwchraddio Boeleri - grantiau o £7500 ar gael ar gyfer cost a gosod pympiau gwres ffynhonnell aer a phympiau gwres o'r ddaear. Cynllun a arweinir gan osodwyr yw hwn, felly bydd gosodwyr yn gwneud cais am grant ar ran aelwyd.
Benthyciad Diogel a Chynnes Cyngor Dinas Casnewydd - Mae benthyciadau gwella tai ar gael i landlordiaid a perchnogion tai preifat y mae angen trwsio neu foderneiddio eu heiddo.
Gellir defnyddio'r benthyciad i wneud cartrefi perchen-feddianwyr yn ddiogel a chynnes neu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Er enghraifft, system wresogi newydd, drysau / ffenestri newydd, atgyweirio to, atal lleithder neu ail-wifro trydanol.
Cynllun Prydlesu Cymru - Cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i'r cyngor am incwm misol gwarantedig a gwasanaeth rheoli eiddo llawn.
Mae grantiau ar gael i wella safonau, gan gynnwys cynyddu TPY eiddo.
Darganfyddwch sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni eich cartref yma.
Awgrymiadau da
Awgrymiadau da ar gyfer cadw eich cartref yn gynnes:
- Tynnwch y llenni gyda'r nos dros ffenestri a drysau allanol i helpu i golli llai o wres
- Agorwch y llenni yn y bore i gynyddu enillion solar i'r cartref
- Caewch ddrysau rhwng ystafelloedd
- Gwnewch yn siŵr nad yw rheiddiaduron yn cael eu rhwystro gan unrhyw ddodrefn i ganiatáu i'r gwres gylchredeg o amgylch yr ystafell
- Gwaedwch reiddiaduron i sicrhau eu bod yn gweithio mor effeithlon â phosibl
Awgrymiadau da ar gyfer arbed ynni yn y cartref:
- Newidiwch fylbiau fflwroleuol hŷn gyda dewisiadau amgen LED
- Ceisiwch lenwi’r tegell gyda’r dŵr sydd ei angen yn unig
- Peidiwch â gadael offer trydanol ar osodiad wrth gefn, trowch nhw i ffwrdd yn y plwg
- Os nad yw'n frwnt, golchwch ar 30O
- Defnyddiwch gaeadau ar sosbenni wrth ferwi bwyd i gynhesu eich bwyd yn gyflymach.
Dysgwch sut i leihau'r defnydd o ddŵr yn eich cartref gan Dŵr Cymru. Hawliwch eitemau am ddim i helpu i wella effeithlonrwydd dŵr.
Dewch o hyd i lawer mwy o syniadau ac awgrymiadau ar wefan yr ymddiriedolaeth arbed ynni.