I gael trosolwg o broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a gweithgareddau ymgysylltu cyfredol, ewch i
newportrldp.co.uk
Ble rydyn ni nawr a ble rydyn ni'n ceisio cyrraedd?
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) ar gyfer y cyfnod 2021-2036.
Pan gaiff ei fabwysiadu bydd yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol.
Bydd y CDLlN yn cynnwys polisïau a chynigion a fydd, gyda'i gilydd, yn darparu ar gyfer anghenion a dyheadau datblygu'r ddinas yn ogystal â diogelu a gwella asedau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Casnewydd.
Mae'r cyngor yn y camau cynnar iawn o baratoi'r CDLlN. Mae'r cyngor yn gweithio tuag at baratoi'r strategaeth a ffefrir, ond rhaid iddo ystyried yn gyntaf:
- y materion, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Casnewydd;
- datblygu'r weledigaeth ar gyfer y CDLlN a gosod nifer o amcanion i gyflawni hyn; a
- Nodi'r twf optimaidd a'r opsiynau gofodol sydd ar gael ar gyfer y CDLlN (i ddilyn yn ddiweddarach yn 2022).
Pam fod angen i ni nodi gweledigaeth, materion ac amcanion ar gyfer y CDLI?
Mae angen gweledigaeth gyffredinol ar bob CDLl sy'n nodi'n glir yr hyn y mae'n ceisio'i gyflawni dros gyfnod y cynllun.
Dylai osod naws uchelgeisiol gadarnhaol gan hefyd fynd i'r afael ag anghenion a heriau lleol penodol yr ardal.
Yna bydd y weledigaeth yn llywio amcanion y cynllun i fynd i'r afael â'r materion, yr heriau a'r cyfleoedd a nodwyd i Gasnewydd yn fanylach.
Bydd yr amcanion yn rhoi mwy o fanylion am sut y gellir cyflawni'r weledigaeth drwy'r system gynllunio.
Gweledigaeth, materion ac amcanion drafft
Mae'r cyngor wedi paratoi’r adroddiad isod s’yn nodi'r hyn y credwn yw'r materion, yr heriau a'r cyfleoedd allweddol sy'n wynebu Casnewydd yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, ac mae'n darparu gweledigaeth ac Amcanion drafft ar gyfer y CDLIN.
Gweledigaeth, materion ac amcanion drafft (PDF)
Ymynghoriad (ar gau)
Roedd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y weledigaeth, materion ac amcanion drafft yn rhedeg o 31 Ionawr 2022 i 25 Mawrth 2022. Mae'r cyfnod ymgynghori hwn bellach wedi dod i ben.
Derbyniodd y Cyngor 33 o ymatebion ysgrifenedig ffurfiol i'r ymgynghoriad.
Rydym yn llwyr werthfawrogi'r amser a gymerir gan y rheiny sy'n rhoi adborth ac yn mynychu digwyddiadau yn y cyfnod cynnar hwn o'r broses.
Mae llawer o randdeiliaid wedi bachu ar y cyfle i ddarparu amrywiaeth o wybodaeth, pynciau polisi arfaethedig a gwybodaeth am ddynodi safleoedd, ac wedi cynnig gweithio mewn partneriaeth a chodi chwestiynau ynglŷn â chwmpas y Cynllun.
Cydnabyddir bod hyn yn mynd y tu hwnt i'r cam ymgynghori presennol a byddwn yn ystyried y pwyntiau a godwyd ar gam priodol y broses o baratoi’r CDLlN.
Ymateb a diwygiadau ar ôl ymgynghori
Cafodd ymatebion y Cyngor i'r 33 o ymatebion ysgrifenedig ffurfiol a’r diwygiadau i’r weledigaeth, y materion a’r amcan drafft eu cymeradwyo gan Gyngor Dinas Casnewydd ar 13 Gorffennaf 2022.
Gellir gweld Adroddiad y Cabinet (Eitem 7), y rhestr lawn o’r sylwadau o’r ymgynghoriad ac ymatebion y Cyngor (07i - Atodiad A), y newidiadau i’r Weledigaeth, y Materion a’r Amcan Drafft (07iii - Atodiad C) ynghyd â gwe-ddarllediad o Gyfarfod y Cabinet yma.