Caniatâd cynllunio
Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob math o waith adeiladu, peirianegol neu fwyngloddio neu newid defnydd adeilad neu dir oni bai bod y gwaith yn ddatblygiad a ganiateir o fewn deddfwriaeth gynllunio.
Darllenwch am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
1. Gwirio a oes angen caniatâd cynllunio
Fel arfer, bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladau newydd, newidiadau mawr, ehangu adeiladau presennol a newid defnydd adeiladau a thir, ond mae rhai eithriadau.
Gwiriwch dŷ rhyngweithiol y Porth Cynllunio
Datblygiad a ganiateir
Mae datblygiad a ganiateir yn disgrifio gwaith adeiladu nad oes angen caniatâd cynllunio arno, ac mae’r rheoliadau’n wahanol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r rheoliadau datblygiad a ganiateir yn gymhleth ac fe’ch cynghorir i gyflwyno’r ffurflen ymholiad rhagarweiniol gan ddeiliad tŷ (pdf) gan roi manylion unrhyw ddatblygiad arfaethedig cyn i’r gwaith ddechrau.
Mae unrhyw gyngor a roddir gan yr is-adran gynllunio yn cynrychioli barn anffurfiol swyddog yn seiliedig ar y manylion a roddwyd gennych, ac nid yw’n gyfreithiol rwymol ar y cyngor.
Fe’ch cynghorir yn gryf i wneud cais am Dystysgrif Cyfreithlondeb, sef dogfen gyfreithiol rwymol sy’n cadarnhau nad oes angen caniatâd cynllunio.
Cyn dechrau unrhyw waith, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl ganiatadau angenrheidiol oherwydd bydd datblygiad anawdurdodedig a wneir heb ganiatâd cynllunio yn agored i gamau gorfodi.
Cysylltu
Cysylltwch â’r gwasanaethau cynllunio yng Nghyngor Dinas Casnewydd.