Ardoll ar Seilwaith Cymunedol

Mae’r Ardoll ar Seilwaith Cymunedol (CIL) yn fecanwaith codi tâl newydd ar gyfer sicrhau cyfraniadau ariannol gan ddatblygwyr.  

Caiff y CIL ei defnyddio i ddarparu seilwaith y mae ei angen i gyflawni twf ar draws Casnewydd ac mae’r cyngor wedi llunio Cynllun Seilwaith Drafft (pdf) (a adwaenir fel Rhestr Rheoliad 123) er mwyn nodi pa seilwaith sydd ei angen.   

Ymgynghorodd y Cyngor ar gyfraddau rhagarweiniol CIL drafft yn ystod haf 2015 ac ym mis Chwefror a mis Mawrth 2016 ymgynghorodd ar Atodlen Codi Tâl CIL Drafft  gyda’r cyfraddau CIL arfaethedig.  

Cafodd yr Atodlen Codi Tâl CIL Drafft ei archwilio gan arolygydd cynllunio annibynnol dros haf 2016, gellir gweld y dogfennau cyflwyno ac archwilio isod.  

Argymhellodd yr arolygydd fod yr Atodlen Codi Tâl yn cael ei chymeradwyo.  

Gweler adroddiad yr arolygydd ar yr Atodlen Codi Tâl CIL  (pdf) 

Cyflwyno ac archwilio  

Mae’r cyngor wedi cyflwyno ei gynigion CIL i’r Arolygiaeth i’w harchwilio’n annibynnol a chafodd y dogfennau dilynol eu cyflwyno’n ffurfiol:   

CD1 Datganiad Cyflwyno (pdf)  

CD2 Atodlen Codi Tâl Drafft (pdf)  

CD3   Draft Atodlen Codi Tal Drafft Adroddiad ar yr Ymgynghoriad  (pdf) 

CD4 Cynllun Datblygu Seilwaith Drafft (Rhestr Rheoliad 123) (pdf)  

CD5 Asesiad Dichonolrwydd CIL Casnewydd (pdf)  

CD5a Adroddiad ar Gostau Adeiladu Casnewydd (pdf)  

CD5b Arfarniadau Graddfa Manwerthu CIL Hydref 15 (Excel)  

CD5c Gwerthoedd Gweddillol Graddfa Manwerthu CIL Hydref 15 (Excel)  

CD5d Arfarniad o Ddichonolrwydd Masnachol Casnewydd Hydref 15 (Excel)  

CD5e Arfarniad o Ddichonolrwydd Preswyl Casnewydd Hydref 15 (Excel)  

CD5f Arfarniad o Ddichonolrwydd Preswyl Casnewydd Hydref 15 Profion Graddfa Ychwanegol (Excel)  

CD5g

Arfarniad o Werth Tir Gweddilliol Casnewydd Hydref 15 (Excel)

 CD6 Adroddiad CIL Cyngor Llawn Casnewydd (pdf)  

Sylwadau a dderbyniwyd – Atodlen Codi Tâl Drafft  

R1 Network Rail (pdf)  

R2 Cydlynydd Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Casnewydd (pdf)  

R3 WYG ar ran Archfarchnad Sainsburys (pdf)  

Dogfennau Ategol  

SD1 Atodlen Codi Tâl ac Asesiad o Ddichonolrwydd Drafft Rhagarweiniol (pdf)  

SD2 Peliminary Atodlen Codi Tal Drafft Rhagarweiniol ar yr Ymgynghoriad (pdf)  

Camau nesaf  

Mae arolygydd cynllunio wedi argymell bod yr Atodlen Codi Tâl CIL yn cael ei chymeradwyo. 

Mae’r cyngor yn ystyried yr argymhelliad hwn ymhellach ac mae’n aros am gyhoeddi newidiadau disgwyliedig Llywodraeth y DU i’r broses CIL. 

Caiff penderfyniad ar ddull gweithredu’r cyngor mewn perthynas â CIL ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd y cyngor yn parhau i geisio pob gyfraniad gan ddatblygwyr trwy Adran 106 hyd nes bydd hysbysiad pellach.

Cysylltu  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am CIL cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm polisi cynllunio.