O 7 Ionawr 2019, mae’n rhaid bod gan ddatblygiad newydd ag ardal adeiladu o 100 metr sgwâr neu fwy system ddraenio gynaliadwy (SDCau) cymeradwy i reoli dŵr wyneb ar y safle.
Mae’n rhaid dylunio ac adeiladu systemau draenio dŵr wyneb yn unol â safonau gorfodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan y Corff Cymeradwyo Draeniau Cynaliadwy (CCDC) cyn cychwyn gwaith.
Corff Cymeradwyo Draeniau Cynaliadwy (CCDC)
Mae’r CCDC yn swyddogaeth cyngor statudol sy’n sicrhau bod cynigion draenio’n bodloni’r safonau cenedlaethol. Bydd y CCDC yn:
- cynnig cyngor cyn cyflwyno cais er mwyn trafod cynigion draenio
- gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd pan fo gwaith adeiladu’n creu goblygiadau draenio
- mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb cynaliadwy yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (FWMA)
Mae gan y CCDC hefyd bwerau archwilio a gorfodi.
Darllenwch Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 am ragor o fanylion.
Mae cymeradwyaeth y CCDC ar wahân i ganiatâd cynllunio. Mae’n rhaid i chi wneud ceisiadau ar wahân am bob un ac ni chaniateir i chi ddechrau gwaith adeiladu nes y cewch y ddau fath o ganiatâd.
Fe'ch cynghorir i geisio cyngor cyn gwneud cais fel y gall yr adran gynllunio a'r CCDC ystyried gofynion draenio.
Mae’r eithriadau’n cynnwys y canlynol:
- ardaloedd adeiladu llai na 100 metr sgwâr
- gwaith adeiladu nad oes gofyn am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer os nad yw’r ardal adeiladu’n 100 metr sgwâr neu fwy
- safleoedd presennol â chaniatâd cynllunio cyn 7 Ionawr 2019
- safleoedd y cafwyd cais cynllunio dilys ar eu cyfer erbyn 7 Ionawr 2019
- safleoedd a dderbyniasant ganiatâd amlinellol erbyn 7 Ionawr 2019, ac y gwnaed argymhelliad ar faterion neilltuedig cysylltiedig erbyn 7 Ionawr 2020

Gwyliwch 'Ever Wondered Where the Rain Goes?' gan Ciria (Cymdeithas Ymchwilio a Gwybodaeth y Diwydiant Adeiladu)
Gwneud cais am gymeradwyaeth CCDC
Rydym yn cynnig gwasanaeth y telir amdano, sef cyngor cyn gwneud cais i drafod gofynion draenio eich cais yn fanwl a’r hyn y mae angen ei gyflwyno gyda’ch cais.
Bydd y gwasanaeth hwn ar wahân i’r gwasanaeth cyn gwneud cais cynllunio.
Download and read SAB pre-application advice (pdf) before applying.
Mae ffioedd y cais yn amrywio o £420 i £7,500 yn seiliedig ar faint y datblygiad.
Download and read SAB full application advice (pdf) before applying.
Mae gan y CCDC saith wythnos i benderfynu ar geisiadau heblaw am y rhai hynny y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol arnynt, ac yn yr achos hwn mae ganddo 12 wythnos.
Mewngofnodwch i Gwasanaethau Fy Nghyngor os oes gennych ffurflen gais wedi'i chadw yr hoffech barhau â hi. Ar ôl i chi fewngfnodi, ewch i'r adran "Ceisiadau Gwasanaeth drafft" ar frig y sgrin ar y dde. I agor y ffurflen, cliciwch y symbol golygu i'r chwith o'r un rydych chi am ei chwblhau.
Further information
Read Welsh Government information about Sustainable drainage systems on new developments
Cysylltu
E-bostiwch sab@newport.gov.uk neu ffoniwch (01633) 656656
Darllenwch ragor o wybodaeth am ddraeniau cynaliadwy ar wefan Susdrain
TRA95282 17/12/2018