Derbyn i ddosbarth meithrin
Fel arfer bydd eich plentyn yn dechrau ei le meithrin yn y mis Medi yn dilyn ei drydydd pen-blwydd. Fodd bynnag:
- Mae plant sy’n cael eu geni rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr yn gymwys i ddechrau'n gynnar o'r mis Ionawr sy’n dilyn eu trydydd pen-blwydd, os oes lleoedd ar gael
- Gellir cynnig lle meithrin dechrau cynnar i blant a anwyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth yn y mis Ebrill ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed, os oes lleoedd ar gael
- Nid yw plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys i gael dechrau’n gynnar.
Cynigir mynediad i ysgolion a dosbarthiadau meithrin cymunedol ar gyfer sesiwn hanner diwrnod, naill ai yn y bore neu’r prynhawn, ar bum niwrnod yr wythnos. Mae ysgolion yn disgwyl i ddisgyblion sy'n mynychu'r dosbarth meithrin fynd i’r holl sesiynau sydd ar gael iddyn nhw.
Os nad ydych am i'ch plentyn fynychu pob un o'r pum sesiwn bob wythnos, efallai y byddai'n well gennych ddod o hyd i le mewn lleoliad preifat sy'n gallu cynnig trefniadau mwy hyblyg - cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd am gyngor.
Wrth wneud cais rydych chi’n ymgeisio am le ym mis Medi ac yn ein hysbysu y byddai gennych ddiddordeb mewn dechrau cynnar (lle Codi’n 3 oed) os oes lleoedd ar gael. I gael cynnig dechrau cynnar, rhaid i bob un o'r canlynol fod yn berthnasol:
- Mae eich plentyn wedi ei eni rhwng 1 Medi a 31 Mawrth
- Neilltuwyd lle meithrin ym mis Medi i chi
- Mae dechrau cynnar ar gael yn y feithrinfa y neilltuwyd lle i chi ar gyfer mis Medi
- Gwnaethoch gais am ddechrau cynnar wrth gyflwyno'ch cais
2 ffordd o wneud cais meithrinfa ar gyfer Medi 2022
- Argraffwch ffurflen gais a'i bostio atom yn y cyfeiriad isod
-
Ffoniwch 01633 656656 i ofyn am ffurflen gais a'i phostio atom yn: Tîm Derbyn i Ysgolion, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd.
NP20 4UR
Sut mae lleoedd wedi'u dyrannu
Cyswllt
school.admissions@newport.gov.uk am gwestiynau ynghylch lleoedd meithrin cymunedol
Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Casnewydd i gael gwybodaeth am leoedd yn y sector preifat a/neu’r cynnig gofal plant.
Rhif Ffôn: (01633) 656656