Gwneud Cais am Le

Rhaid gwneud cais am bob plentyn sydd angen lle meithrin neu le mewn ysgol, os yw'r lle mewn ysgol gyfrwng Saesneg neu gyfrwng Gymraeg.

Ffeithiau pwysig y dylech eu gwybod cyn gwneud cais am le mewn ysgol

 

Rownd dderbyn flynyddol

Dyma lle rydych chi'n gwneud cais am y flwyddyn dderbyn arferol i ysgol h.y. Meithrin, Derbyn neu Flwyddyn 7, ac fe'i gelwir yn rownd dderbyn/cam pontio arferol.

Mae yna ddyddiad cau ar gyfer gwneud eich cais ac os byddwch yn methu'r dyddiad cau hwn, neu'n newid eich dewis ar ôl y dyddiad cau, byddwch yn llawer llai tebygol o gael lle yn yr ysgol o'ch dewis.

Gweld amserleeni gwneud cais ar gyfer 2024

Trosglwyddo yn ystod y Flwyddyn 

Gwneud cais am dderbyn i ysgol neu drosglwyddo ysgol yn ystod y flwyddyn (i newid ysgol eich plentyn y tu allan i'r rownd dderbyn flynyddol)

Trefniadau derbyn i ysgolion - dweud eich dweud

Rydym yn ymgynghori ar drefniadau derbyn i ysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae'r trefniadau yn nodi:

  • yr amserlen ar gyfer gwneud ceisiadau am leoedd mewn ysgolion
  • Y meini prawf ar gyfer sut mae lleoedd wedi'u dyrannu.

Nid oes unrhyw newidiadau polisi yn cael eu cynnig yn yr ymgynghoriad hwn.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 5pm ddydd Gwener 16 Chwefror.

E-bostiwch eich sylwadau i [email protected] erbyn 5pm ar y dyddiad cau.

Gwelwch y ddogfen ymgynghori. (pdf)

Mwy o wybodaeth

 

Cyswllt

E-bost: [email protected]

Rhif Ffôn: (01633) 656656

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd derbyn i ysgolion (pdf) yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich data.