Ysgol Gynradd
Gall plant ddechrau’r ysgol (Dosbarth derbyn) yn y mis Medi'n dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
Dyddiad cau: 5pm ar 11 Ionawr 2023
Dyddiad penderfynu: 17 Ebrill 2023
3 ffordd o wneud cais am le derbyn ar gyfer Medi 2023
-
Ar lein
-
Argraffwch ffurflen gais a'i phostio atom yn: Tîm Derbyn i Ysgolion, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd. NP20 4UR
-
Ffoniwch 01633 656656 i ofyn am ffurflen gais a'i phostio atom yn Tîm Derbyn i Ysgolion, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd. NP20 4UR
AR gyfer derbyn i ysgol gynradd y tu allan i'r rownd dderbyn flynyddol 2022 bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn
Gall rhieni ohirio derbyn eu plentyn i’r ysgol nes y tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed a bydd y lle'n cael ei gadw. Ni ellir gohirio y tu hwnt i ddechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bump oed, neu y tu hwnt i'r flwyddyn ysgol y gwnaed y cais ar ei chyfer.
Cyn penderfynu a ddylech ohirio, dylech gysylltu â'ch dewis ysgol/ysgolion i ofyn sut y mae'n darparu ar gyfer y plant ieuengaf yn y Dosbarth Derbyn a sut y caiff anghenion y plant hyn eu bodloni wrth iddynt symud drwy'r ysgol.
Cyswllt
Ebost: school.admissions@newport.gov.uk
Ffôn: (01633) 656656