Trosglwyddo yn ystod y Flwyddyn

Mae nifer o resymau pam y gallech fod am newid ysgol eich plentyn yn ystod y flwyddyn academaidd, ond mae'n bwysig eich bod yn ystyried ai trosglwyddo yw'r opsiwn gorau mewn gwirionedd.

Gall newid ysgolion gael effaith negyddol ar eich plentyn, megis:

  • amharu ar ei haddysg, a allai effeithio ar gynnydd academaidd

  • effeithio ar ei amgylchedd cymdeithasol, grwpiau cyfeillgarwch a gweithgareddau allgyrsiol

  • efallai na fydd lle ar gael i'ch plentyn yn yr ysgol a ddymunwch ac os ydych yn gobeithio trosglwyddo brodyr a chwiorydd, efallai na fydd pob un ohonynt yn cael cynnig yr un ysgol

  • effeithir ar nifer y cymwysterau y gall eich plentyn eu cyflawni ym Mlwyddyn 10/11 os nad oes yr un opsiynau academaidd ar gael gan yr ysgol newydd

Oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, er enghraifft, ar ôl symud tŷ, fe'ch cynghorir yn gryf i weithio gydag ysgol bresennol eich plentyn yn hytrach na throsglwyddo.

Gallai siarad â'ch plentyn a staff yn ysgol bresennol eich [plentyn osgoi'r angen i drosglwyddo.

Os daw eich cais i newid ysgol o dan un o’r rhesymau a restrir isod dylech gymryd y camau a nodwyd cyn gwneud cais:

Cofiwch, ni ddylai unrhyw ysgol eich cynghori chi na'ch plentyn i drosglwyddo.  Rhowch wybod i ni os yw hyn yn digwydd. 

Rhesymau cyffredin dros ofyn am drosglwyddiad 

1. Anfodlonrwydd â’r ysgol

Dylech...drafod eich pryderon gyda'r pennaeth blwyddyn, yr athro dosbarth neu'r pennaeth. Os teimlwch nad yw'r ysgol wedi ymateb yn briodol, dylech godi'r mater gyda'r Corff Llywodraethu, rhaid cymryd y cwynion hyn o ddifri.

Ein cyngor…O’n profiad ni, nid yw symud oherwydd anfodlonrwydd â’r ysgol yn datrys y broblem. Yn aml fe welwn yr un broblem yn codi yn yr ysgol newydd, felly dylid ceisio ei datrys cyn i chi symud.

2. Diffyg presenoldeb yn yr ysgol

Fe ddylech…drafod â’ch plentyn i weld pam nad yw ef neu hi yn mynd i’r ysgol. Siaradwch ag athrawon eich plentyn. A oes unrhyw bynciau y mae’n poeni amdanynt?

Ein cyngor…rhaid i blant fynd i’r ysgol. Yn aml fe welwn drwy siarad â’ch plentyn a’r ysgol, gellir canfod y broblem a chymryd camau i’w datrys. Gofynnwch i'r ysgol roi manylion cyswllt eu Swyddog Lles Addysg i chi.

3. Bwlio yn yr ysgol a lles emosiynol

Dylech…Gysylltu â’ch ysgol a gofyn am gopi o’i pholisïau diogelu, bwlio neu les emosiynol.

Os teimlwch nad yw’r polisïau hyn wedi cael eu dilyn, dylech roi gwybod i’r ysgol.

Mae cyfrifoldeb ar bob ysgol i fynd i’r afael â bwlio ac mae gan bob ysgol yr adnoddau i ddelio â’r broblem.

Os ydych chi'n teimlo nad ydyn nhw, cysylltwch â'r pennaeth neu'r Corff Llywodraethu ac os yw'r bwlio yn arbennig o ddifrifol dylech gysylltu â'r heddlu.

Ein cyngor…Nid ydym yn argymell symudiadau ysgol yn sgil bwlio neu broblemau lles emosiynol. Mae cyfrifoldeb ar bob ysgol i ddiogelu lles corfforol ac emosiynol ei disgyblion. Os nad yw hyn wedi’i wneud yn achos eich teulu chi, dylech godi’r mater â’r ysgol fydd yn gallu:

  • Symud y plentyn i ddosbarth arall

  • Cymrodeddu

  • Trefnu cyfarfodydd teulu

4. Problemau nas datryswyd

Dylech...Wneud apwyntiad i siarad â'r pennaeth, os nad yw hyn yn gweithio, gallwch godi cwyn gyda'r Corff Llywodraethu. Mae cyfrifoldeb ar yr ysgol a’i thîm arwain i ddatrys problemau gyda’ch plentyn.

Ein cyngor…Dylai rhieni drafod y problemau gyda’u hysgol bresennol. Ni fyddai’n briodol disgwyl i’ch plentyn symud neu ‘droi dalen newydd’ am na all yr ysgol ddatrys eich pryderon.

5. Gallai eich plentyn wynebu gwaharddiad

Dylech…Siarad ag athro’ch plentyn, pennaeth y flwyddyn neu’r pennaeth. Holwch a oes gan eich plentyn gynllun cymorth bugeiliol neu a yw wedi’i nodi yn ddisgybl ag anghenion addysgol arbennig. Gofynnwch am adolygiad o'r cynllun cymorth bugeiliol neu unrhyw gynlluniau eraill sydd ar waith ar hyn o bryd i gefnogi ymddygiad eich plentyn.  Os nad ydynt yn derbyn unrhyw gymorth ychwanegol, gofynnwch am gael siarad ag aelod o staff i drafod hyn.

Ein cyngor…Os yw’r ysgol wedi codi pryderon ynghylch ymddygiad eich plentyn, nid ydym yn argymell i chi ei symud i ysgol arall. Ni ddylai unrhyw ysgol fod yn awgrymu hyn i’ch plentyn. Gallai hyn waethygu’r broblem. Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â ni.

6. Dysgu ychwanegol neu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Dylech...Siara â'r athro sy'n gyfrifol am Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) yn yr ysgol ac e-bostio’r tîm AAA yn [email protected]

Ein cyngor…Rydym yn argymell fod rhieni yn trafod â thîm ADY neu dîm cymorth bugeiliol yr ysgol.


Os ydych am drosglwyddo i ysgol arall, a hynny ar ôl gweithio gydag ysgol bresennol eich plentyn, bydd angen i chi wneud cais.

Dylech nodi mai dim ond lleoedd cyfyngedig sydd ar gael yn ystod y flwyddyn ysgol ac efallai y gwrthodir eich cais, hyd yn oed os ydych yn byw'n lleol.  

Peidiwch â chyflwyno'r cais hwn fwy nag un tymor ysgol cyn dyddiad dechrau gofynnol eich plentyn.

Nodwch y dyddiadau isod os ydych yn gwneud eich cais cyn y dyddiad cychwyn gofynnol:  

  • Os byddwch yn cyflwyno cais yn ystod tymor yr hydref, bydd angen i chi ddechrau erbyn wythnos gyntaf tymor y gwanwyn.

  • Os byddwch yn cyflwyno cais yn ystod Tymor yr ganwyn, bydd angen i chi ddechrau erbyn wythnos gyntaf tymor yr haf.  

  • Os byddwch yn cyflwyno cais yn ystod tymor yr haf, bydd angen i chi ddechrau erbyn wythnos gyntaf tymor yr hydref.

Addysg Gymraeg

Croesawn ymholiadau gan rieni sy'n dymuno trosglwyddo eu plentyn o addysg Saesneg i addysg Gymraeg.

Gellir rhoi cymorth iaith ychwanegol i'r disgyblion i drosglwyddo ac mae hyn fel arfer yn llwyddiannus.

Cysylltwch â'ch ysgol ddalgylch Gymraeg neu e-bostiwch [email protected] am fwy o wybodaeth.

Gwneud cais i gael trosglwyddo yn ystod y flwyddyn

2 ffordd o wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn. Darllenwch y polisi derbyn i ysgolion cyn gwneud eich cais.

Ar gyfer derbyn rhwng Medi 2023 a Gorffennaf 2024 

  •  Cwblhau cais ar-lein

  • Ffoniwch 01633 656656 i ofyn am ffurflen gais a'i phostio atom yn: Tîm Derbyn i Ysgolion, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR

Cyswllt

ebost:[email protected]

Ffôn: (01633) 656656