Amserlenni ceisiadau derbyn i ysgolion

Derbyniadau ym Mis Medi 2023

Darllenwch y Polisi Derbyn i Ysgolion 2023/24i ddeall:

  1. Pa bryd y bydd eich plentyn yn gymwys i gael lle
  2. Eich cyfrifoldebau wrth wneud cais dros eich plentyn
  3. Sut y caiff eich cais ei brosesu
  4. Beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl derbyn eich penderfyniad

Sylwer: Yn unol â chynigion ad-drefnu ysgolion diweddar bydd dalgylchoedd cyfrwng Saesneg Ysgolion Cynradd Pilgwenlli a Maesglas yn newid o fis Medi 2023. Bydd y newidiadau hyn ar gael i'w gweld o 7 Gorffennaf 2022. Gwiriwch eich ysgol ddalgylch cyn gwneud datganiad cais. Mae'r neges hon yn berthnasol i feithrin a derbyn yn unig.

Meithrin

Dyddiad geni plant cymwys: 1 Medi 2019 - 31 Awst 2020

Sut mae lleoedd wedi'u dyrannu (pdf)

Ar gyfer derbyniad i Feithrinfa y tu allan i'r rownd derbyniadau blynyddol gan gynnwys Meithrin 2023 bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn

Dosbarth Derbyn

Dyddiad geni plant cymwys: 1 Medi 2018 - 31 Awst 2019

Sut mae lleoedd wedi'u dyrannu (pdf)

Ar gyfer derbyniad i ysgol gynradd y tu allan i'r rownd derbyniadau blynyddol gan gynnwys Derbyn 2023 bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.


Blwyddyn 7 (ysgol uwchradd)

Dyddiad geni plant cymwys: 1 Medi 2012 - 31 Awst 2013

Sut mae lleoedd wedi'u dyrannu (pdf)

Gweld y penderfyniad ar-lein

Ar gyfer derbyniad i ysgol uwchradd y tu allan i'r rownd derbyniadau blynyddol gan gynnwys Uwchradd 2023 bydd angen i chi wneud cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn.


Blwyddyn 12 (Chweched dosbarth)

Dyddiad geni plant cymwys: 1 Medi 2006 - 31 Awst 2007

Gwneud cais yn uniongyrchol i'r ysgol ym mhob achos

* Os na allwch wneud cais ar-lein gallwch gael gafael ar ffurflenni y gellir eu hargraffu drwy glicio ar y pennawd tabl perthnasol uchod neu ffonio 01633 656656 i ofyn am un.