Cwestiynau cyffredin

1. Pryd ddylwn i ymgeisio am le meithrin neu ysgol i’m plentyn?

Gall plant gael lle meithrin ym mis Medi’r flwyddyn academaidd pan fyddant yn bedair oed.

Gall y lle hwn fod mewn ysgol, grŵp chwarae neu feithrinfa ddydd preifat.

Pan fyddant wedi cael lle meithrin ym mis Medi, bydd plant a anwyd rhwng 1 Medi a 31 Mawrth o bosibl yn cael cynnig dechrau cynnar yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed, os oes lleoedd ar gael - gelwir hyn yn aml yn lleoedd Plant Sy’n Codi’n 3 Oed.

Nid yw plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys am le i blant sy’n codi’n 3 oed.

Derbynnir plant i ddosbarthiadau ac ysgolion meithrin cymunedol ar sail sesiynau hanner diwrnod, naill ai yn y bore neu’r prynhawn, bum diwrnod yr wythnos, a chyfrifoldeb y pennaeth yw dyrannu sesiynau. 

Darllen mwy am dderbyniadau i addysg feithrin  

Gall plant ddechrau yn y dosbarth derbyn yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn bedair oed.

Mae angen i chi ymgeisio am eu lle ysgol yn ystod tymor yr hydref blaenorol.  

Gallwch ohirio derbyn eich plentyn nes y tymor ar ôl ei b/phen-blwydd yn bump oed, a bydd modd cadw'r lle yn y dosbarth derbyn i'r plentyn.

Fodd bynnag, ni ellir oedi dechrau’r ysgol ar ôl dechrau’r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bump oed neu ar ôl y flwyddyn ysgol y mae’r cais wedi’i wneud ar ei chyfer.

Nid yw mynd i ddosbarth meithrin yn gwarantu lle mewn dosbarth derbyn gan fod angen cais ar wahân, a ni roddir unrhyw flaenoriaeth i blant sy’n mynychu’r dosbarth derbyn. 

Darllen mwy am dderbyn i ysgol gynradd 


Bydd plant yn trosglwyddo i ysgol uwchradd yn ystod mid Medi’r flwyddyn pan fyddant yn troi'n 12 oed.

Bydd angen i chi ymgeisio am y trosglwyddiad hwn yn ystod tymor yr hydref blaenorol.

Nid yw mynd i ysgol gynradd benodol yn rhoi blaenoriaeth i’ch plentyn o ran cael lle mewn ysgol uwchradd.

Darllen mwy am dderbyn i ysgol uwchradd


Caiff yr amserlen dderbyn ei harddangos mewn ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a hamdden Casnewydd ac ym Materion Casnewydd, cylchlythyr y cyngor, sy’n cael ei anfon at bob cartref yng Nghasnewydd.

Bydd y dyddiadau cau hefyd yn cael eu nodi ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y cyngor. 

Mae cyfrifoldeb ar rieni i gadw golwg am yr hysbysiadau hyn a chyflwyno cais ar yr adeg gywir.

Bydd plant sy’n trosglwyddo o ysgol gynradd i uwchradd yn derbyn llythyr drwy’r ysgol yn amlinellu’r broses dderbyn.  

2. Pwy all wneud cais i blentyn gael ei dderbyn i ysgol neu drosglwyddo rhwng ysgolion?

Mae’n rhaid i oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn gyflwyno cais, a bydd rhaid iddo gadarnhau mai ef sydd â chyfrifoldeb yn rhan o'r cais. 

Disgwylir y bydd rhieni'n cytuno ar flaenoriaethau ysgol ar gyfer plentyn cyn cyflwyno cais.

Os nad yw’r rhieni’n cytuno, bydd y cyngor yn derbyn cais gan y rhiant sy’n derbyn y budd-dal plant.

Nid yw’r cyngor mewn sefyllfa i ymyrryd mewn dadleuon rhwng rhieni dros geisiadau am leoedd ysgol, a bydd yn gofyn i'r rhain gael eu datrys yn breifat.  

3. A allaf gofrestru enw fy mhlentyn mewn ysgol benodol i gael blaenoriaeth?

Na. Bydd pob cais sy’n cael ei dderbyn erbyn y dyddiad cau perthnasol yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, ac ni roddir blaenoriaeth ar sail y cyntaf i'r felin.  

Nid yw penaethiaid yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau, does ganddynt ddim dylanwad dros ganlyniad cais a chant eu hannog yn ymarferol i beidio â gadael i rieni 'roi eu henwau i lawr' am le. 

4. Sut alla’i wneud cais am le ysgol yng Nghasnewydd?

Ymgeisiwch am le ysgol ar-lein fel y’i nodir yn yr amserlen dderbyn i ysgolion.

Mae’n bwysig eich bod chi’n cyflwyno eich cais cyn y dyddiad cau, oherwydd bydd cais hwyr yn cynyddu’r posibilrwydd o beidio â chael lle yn eich ysgol ddewisol.

I gael cyngor e-bostiwch [email protected]

5. Oes angen i mi ymgeisio hyd yn oed os ydw i’n byw yn y dalgylch neu os oes gen i blentyn hŷn yn yr un ysgol?

Oes, mae’n rhaid i bob plentyn sydd am gael lle ysgol prif ffrwd wneud cais.

Does dim gwarant o le i’ch plentyn mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os taw'r ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, neu os oes gennych blant eraill yn yr ysgol honno, er y byddant yn cael mwy o flaenoriaeth.

Mae trefn y flaenoriaeth yn cael ei nodi yn y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf).

Darllen am eich ysgol ddalgylch a chael gwybodaeth amdani. 

6. Sut alla’i wneud cais am le yn y chweched dosbarth?

Cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol i wneud cais am le mewn chweched dosbarth. 

7. Sut ddylwn i benderfynu pa ysgol i wneud cais amdani?

Ystyriwch a ydych yn awyddus i’ch plentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg neu addysg ffydd.

Darllenwch y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf) sy’n rhestru pob ysgol yng Nghasnewydd. 

Meddyliwch am sut bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol gan na fyddant o reidrwydd yn gymwys am drafnidiaeth ysgol.

Darganfyddwch sut mae ysgolion yn perfformio ar wefan Estyn.  

8. Pa ysgol yw f’ysgol ddalgylch?

 ‘Ardal dalgylch’ yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal ddaearyddol lle fydd plant yn cael blaenoriaeth am le mewn ysgol benodol, er nad yw’n gwarantu lle.

Er bod gan bob ysgol ardal dalgylch dynodedig, gall rhieni ddewis unrhyw ysgol maent am i’w plant ei mynychu.

Bydd pob cyfeiriad yng Nghasnewydd o fewn dalgylch ysgol cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.

Darganfyddwch ysgol ddalgylch eich cyfeiriad chi

9. Beth os rwyf eisiau i'm plentyn gael addysg ffydd?

Darperir addysg ffydd yng Nghasnewydd drwy ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ac ysgolion Catholig .

Bydd y cyngor yn ymdrin â cheisiadau am le yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas, ond mae ceisiadau am leoedd ym mhob ysgol ffydd arall yn gyfrifoldeb ar y corff llywodraethu perthnasol, a dylid eu cyfeirio at y pennaeth.  

10. Beth os rwyf yn awyddus i’m plentyn gael ei addysg mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?

Mae addysg gyfrwng Gymraeg ar gael i bawb – mae nifer fawr o’r rhieni plant ysgolion gyfrwng Gymraeg Casnewydd methu siarad Cymraeg ac nid yw hyn yn rhwystr i chi neu’ch plentyn.

O fewn Casnewydd mae 4 ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg, gydag meithrin ac 1 ysgol Gyfun cyfrwng Gymraeg. Gymraeg yw iaith ffurfiol ac anffurfiol yr ysgolion yma o fewn mhob pwnc. mae disgyblion o fewn ysgolion Gymraeg yr ardal yn dysgu Saesneg a Chymraeg i safonau uchel. Mae holl ddysgu ac asesiadau, heblaw am bwnc Saesneg, yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg drwy gydol yr holl gyfresau allweddol.

Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol gyfrwng Saesneg ac rydych yn ystyried symud i ysgol gyfrwng Gymraeg, cymerwch sylw fod yna cyfnod sy'n medru cefnogi eich plentyn yn ystod eich cyfnod trawsnewid. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein dudalen dysgu Cymraeg yng Nghasnewydd.

11. Oes gwarant y byddaf yn cael lle yn yr ysgol o'm dewis?

Nac oes, does dim gwarant lle mewn unrhyw ysgol benodol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw’r ysgol ddalgylch.

Mewn sawl ardal yng Nghasnewydd, mae’r galw am leoedd ysgol yn uchel iawn ac rydym yn derbyn mwy o geisiadau na‘r lleoedd sydd ar gael – golyga hyn y bydd rhai ceisiadau’n cael eu gwrthod.

Mae’n bwysig nad ydych yn annog eich plentyn i gredu y bydd lle ar gael iddo/iddi mewn unrhyw ysgol benodol cyn i chi gael eich penderfyniad. 

12. A ddylwn wneud cais am fwy nac un ysgol?

Dylech. Ni fydd eich plentyn yn gallu cael ei ystyried ar gyfer lle mewn ysgol oni bai eich bod wedi gwneud cais ar ei gyfer, felly dylech ystyried dewis o leiaf tair ysgol wahanol i gynyddu'r posibilrwydd o gael lle'r ydych chi'n fodlon arno.

Gallwch ofyn i gael lle amgen yn yr ysgol agosaf sydd ar gael.

Bydd mynegi blaenoriaeth am ysgol yn rhoi blaenoriaeth i’ch plentyn chi dros y rhieni hynny sydd heb nodi blaenoriaeth.

Os ydych yn penderfynu i beidio â nodi’r ysgol ddalgylch fel un o’ch blaenoriaethau ond yn aflwyddiannus gyda phob un dewis, bydd eich plentyn ond yn cael ei ystyried ar gyfer lle yn yr ysgol ddalgylch os oes lleoedd ar gael.

Os yw’r ysgol ddalgylch yn llawn, gallai’ch plentyn fod heb lle ysgol i ddechrau.

Caiff yr holl blant sy’n byw yng Nghasnewydd eu dyrannu â lle ysgol yn y pendraw ond gallai hyn fod mewn ysgol sydd gryn bellter o’r cartref.  

13. Pa dystiolaeth sydd angen arnaf i gefnogi fy nghais?

Bydd angen tystiolaeth o’ch cyfeiriad cartref ar gyfer pob cais.

Bydd angen tystiolaeth o ddyddiad geni plentyn ym mhob achos, oni bai pan fydd y plentyn yn trosglwyddo o un ysgol yng Nghasnewydd i un arall.  

Ni fydd modd prosesu ceisiadau heb y dystiolaeth berthnasol a gall hyn ohirio eich penderfyniad.

Mae’r holl fanylion am y dystiolaeth fydd ei hangen arnoch yn y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf).  

14. Mae fy mhlentyn yn byw mewn cyfeiriad gwahanol yn ystod yr wythnos, pa gyfeiriad ddylwn i roi ar y ffurflen gais?

Mae’r cyngor yn ystyried cyfeiriad cartref eich plentyn fel y lle y mae’n byw'n barhaol ar gyfer mwyafrif yr wythnos ysgol ar y dyddiad cau perthnasol.

Fel arfer yr un cyfeiriad â’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, sef y prif ofalwr, yw’r cyfeiriad hwn, ac nid yw’n golygu'r cyfeiriad lle bydd eich plentyn yn derbyn gofal gan berthnasau neu bobl eraill.

Pan fo’r plentyn yn treulio’r un faint o amser gyda’r ddau riant/gofalwyr, neu os yw cyfeiriad y cartref yn destun dadlau, cartref y person sy’n derbyn y budd-dal plant gaiff ei ystyried yn gartref y plentyn.  

15. Beth os byddaf yn symud tŷ yn ystod y broses ymgeisio?

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau – gan gynnwys newid cyfeiriad – ar ôl cyflwyno’ch cais.

Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth yn cael ei hanfon at y cyfeiriad cywir yn unig, a ni fydd yn effeithio ar ganlyniad eich cais os yw hyn ar ôl y dyddiad cau.

Bydd cyfeiriad newydd ond yn cael ei ystyried wrth bennu canlyniad eich cais os ydych yn byw yno ar y dyddiad cau, ac yn cyflwyno tystiolaeth o hyn.

Os ydych yn symud i mewn i Gasnewydd neu i rywle arall yng Nghasnewydd, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn derbyn lle yn yr ysgol leol.

Does dim gwarant o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.  

16. Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

Os byddwch yn cyflwyno cais ar-lein byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost awtomataidd cyn gynted ag y caiff y cais ei gyflwyno.

Os na fyddwch yn derbyn y cadarnhad hwn bydd angen e-bostio’r tîm derbyn i ysgolion cyn gynted â phosibl i wirio a yw’ch cais wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus.

Ni all y cyngor dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gais neu dystiolaeth sydd heb ei gyflwyno’n gywir ar y system ar-lein neu os yw wedi mynd ar goll yn y post. 

Unwaith y bydd wedi'i dderbyn, caiff eich cais ei asesu gyda phob un arall sydd wedi’i gyflwyno erbyn y dyddiad cau.  

17. Pa mor hir fydd angen aros i gael penderfyniad?

Byddwn yn dweud wrthych am ganlyniad eich cais am le ysgol ar y dyddiad cynnig perthnasol.

Bydd llythyrau penderfyniad yn cael eu hanfon drwy bost ail ddosbarth ddim llai na dau diwrnod gwaith (gan gynnwys dydd Sadwrn) cyn y dyddiad cynnig.

Bydd ymgeiswyr sy’n dewis cyflwyno cais ar-lein yn sicr yn derbyn e-bost yn cadarnhau eu penderfyniad ar y dyddiad cynnig.  

18. Sut fydd y penderfyniad yn cael ei wneud?

Byddwn yn ystyried faint o leoedd sydd ar gael ym mhob ysgol a faint o ddisgyblion sydd wedi gwneud cais am le yn yr ysgol honno.

Pan fo nifer y ceisiadau yn gyfartal â neu’n llai na nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd pob cais yn llwyddiannus.

Pan fo nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio cyfres o feini prawf i adnabod pa ddisgyblion ddylai gael blaenoriaeth. Gelwir hyn yn feini prawf gordanysgrifio ac mae ar gael i'w weld yn y Polisi Derbyn i Ysgolion (pdf).  

19. Pa ddisgyblion fydd yn cael blaenoriaeth?

a) Plant gyda datganiad Anghenion Addysgol Arbennig (AAA): 

Bydd plentyn â datganiad AAA sy’n nodi ysgol benodol yn awtomataidd yn cael lle yn yr ysgol honno.

Os nad oes unrhyw ysgol yn cael ei henwi mewn datganiad, ystyrir y gall anghenion y plentyn gael eu bodloni mewn unrhyw ysgol brif ffrwd, does dim blaenoriaeth benodol a bydd y cais yn cael ei asesu'n unol â'r meini prawf gordanysgrifo cytunedig.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch [email protected]

b) Plant sy’n derbyn gofal a phlant oedd yn arfer derbyn gofal:

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan plant sy’n derbyn gofal (plant mewn gofal cyhoeddus) os byddant wedi’u hategu gan ddatganiad gan weithiwr cymdeithasol y plentyn yn amlinellu buddion y lleoliad ysgol.

Gellid rhoi’r blaenoriaeth hon i blant a arferai dderbyn gofal er bod rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cais roi tystiolaeth i gadarnhau'r statws gofal blaenorol, megis tystysgrif mabwysiadu.

c) Plant sy’n byw yn ardal ddalgylch yr ysgol:

Bydd plant sydd wedi’u cadarnhau fel eu bod yn byw yn ardal ddalgylch yr ysgol yn cael blaenoriaeth uwch na’r rheiny sy’n byw y tu allan i’r dalgylch pan fo lleoedd ar gael.

d) Plant gydag amgylchiadau meddygol neu blant ar y gofrestr amddiffyn plant:

Bydd ceisiadau a wneir ar sail angen meddygol yn cael blaenoriaeth os ydynt wedi'u hategu gan adroddiad gan feddyg ymgynghorol, y gofynnwyd amdano gan y rhieni, sy’n nodi’r fantais feddygol i’r plentyn o fynychu’r ysgol dan sylw.

Rhoddir blaenoriaeth os oes lleoedd ar gael yn unig.

Ni dderbynnir adroddiadau gan feddygon teulu neu weithwyr proffesiynol iechyd eraill at y diben hwn.

Bydd plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant y mae'r gwasanaethau cymdeithasol wedi argymell lle iddynt yn cael blaenoriaeth os oes lleoedd ar gael.

e) Plant gyda brodyr a chwiorydd:

Bydd plant gyda brodyr a chwiorydd yn yr ysgol pan fyddant yn ymuno yn cael mwy o flaenoriaeth na’r rheiny sydd heb frodyr na chwiorydd yn yr ysgol.

Nid yw hyn yn berthnasol i geisiadau am leoedd meithrin. 

20. A yw lleoedd ysgol yn cael eu cadw i blant fydd yn symud i mewn i'r ardal?

Na, mae’n rhaid i ni dderbyn disgyblion hyd at y nifer derbyn a does dim hawl i gadw neu ddal lle rhag ofn y bydd teuluoedd yn symud i mewn i'r ardal, neu ar gyfer unrhyw grŵp benodol o bobl.

Nid yw’n bosibl symud plentyn o ysgol os oes plentyn gyda mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf gordanysgrifio'n angen lle.

Os ydych yn symud i mewn i Gasnewydd neu i rywle arall yng Nghasnewydd, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn derbyn lle yn yr ysgol leol.

Does dim gwarant o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.  

21. Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael fy ngwrthod gan yr ysgol(ion) ddewisol?

Os nad oes modd cynnig lle yn eich ysgol(ion) ddewisol o ganlyniad i ddefnyddio’r meini prawf gordanysgrifio cyhoeddedig, ac os ydych yn byw yng Nghasnewydd, byddwch yn cael cynnig lle amgen yn eich ysgol ddalgylch os oes lleoedd ar gael.

Os nad yw’r ysgol ddalgylch ar gael, byddwn yn dweud wrthych am yr ysgolion sydd â lleoedd ar ôl ynddynt, ac yn gofyn i chi i nodi blaenoriaethau eraill hefyd.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus ac nid ydych yn byw yng Nghasnewydd, fe’ch cynghorir chi i gysylltu â’ch awdurdod lleol gartref am ysgol amgen neu gyflwyno blaenoriaethau ychwanegol ar gyfer ysgolion eraill yng Nghasnewydd.

Os yw dewis ysgol yn aflwyddiannus, byddwch yn cael hawl i apelio'n erbyn y penderfyniad hwn - does dim hawl i apelio o ran derbyn ddosbarthiadau meithrin.

Bydd enw eich plentyn yn cael ei ychwanegu at restr aros ar gyfer unrhyw flaenoriaeth ysgol sy'n cael ei wrthod.

Os yw lleoedd yn dod ar gael, bydd pob plentyn ar y rhestr aros yn cael eu hystyried gyda’i gilydd ar gyfer y lle, ac yn cael eu blaenoriaethu fel y’i nodir yn y polisi derbyn i ysgolion.

Nid yw rhestrau aros yn rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad y cyflwynwyd y cais, ac nid yw bod ar restr aros yn gwarantu y bydd lle'n dod ar gael maes o law.

Bydd hyd yr amser y bydd eich plentyn yn aros ar y restr aros hon yn cael ei gadarnhau yn eich llythyr penderfyniad. 

22. Oes modd cael gwybod lle mae fy mhlentyn ar y rhestr aros?

Gan nad ydym yn sgorio na’n rhoi unrhyw drefn ar y rhestr aros, bydd y rhestr yn berthnasol nes bydd lle’n dod ar gael yn y grŵp blwyddyn perthnasol. Gallwn roi safle'ch plentyn ar y rhestr fel rhagamcan yn unig ar eich cais.  

23. Sut mae’r broses apeliadau'n gweithio?

Os yw dewis ysgol yn aflwyddiannus, byddwch yn cael hawl i apelio'n erbyn y penderfyniad hwn - does dim hawl i apelio o ran derbyn ddosbarthiadau meithrin.

Bydd profforma apelio wedi'i amgau gyda'ch llythyr penderfyniad, a dylech ddychwelyd hwn i bennaeth cyfraith a rheoleiddio'r cyngor erbyn y dyddiad a nodir er mwyn tynnu sylw at eich bwriad i apelio.

Yna, byddwch yn cael gwybod am ddyddiad ac amser eich gwrandawiad, sydd fel arfer yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ddinesig.

Yna, byddwch yn cael eich gwahodd i glywed achos y cyngor dros wrthod fydd yn cael ei gyflwyno i banel annibynnol o dri o bobl nad ydynt yn gysylltiedig â'r ysgol dan sylw na'r cyngor.

Bydd y gwrandawiad apêl mor anffurfiol â phosibl ond os ydych yn credu bod angen ychydig o gyngor arnoch o ran sut i gyflwyno’ch cais, dylech geisio hyn yn annibynnol.

Mae hyn yn fater i bob unigolyn, ond nid yw pob rhiant yn meddwl bod angen hyn.

Ni all swyddogion drafod teilyngdod achos rhiant, gan fod hyn yn fater i’r panel.

Wrth gyflwyno apêl, rydych yn gwneud achos i’ch plentyn fynychu ysgol benodol a dylai’r achos fod yn seiliedig ar y rhesymau pam ddylai'ch plentyn fynd i'r ysgol honno.

Os ydych yn dymuno dewis ysgol flaenoriaeth amgen i’r un sydd wedi’i ddyrannu i’ch plentyn cysylltwch â’r tîm derbyn i ysgolion.

Ym mhob apêl derbyn i ysgolion, bydd penderfyniad y panel yn derfynol ac yn berthnasol i bob parti.

Gall y Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus archwilio cwynion ysgrifenedig am gamweinyddu ar ran panel apeliadau derbyn.

Mae camweinyddu’n cynnwys materion megis methu ag ymddwyn yn annibynnol ac yn deg, yn hytrach na chwynion lle bo person yn teimlo bod y penderfyniad yn un anghywir.

Bydd penderfyniad panel apeliadau’n gallu cael ei wrthdroi gan y llysoedd pan fo’r apelwyr neu'r awdurdod derbyn yn llwyddiannus yn eu cais am Adolygiad Barnwrol o'r penderfyniad hwnnw.  

24. Beth ddylwn i ei wneud os rwyf yn awyddus i drosglwyddo fy mhlentyn i ysgol amgen? 

Mae newid ysgolion yn fater sydd angen ystyriaeth ddifrifol gan nad yw’n ateb synhwyrol bob tro, a gall gael effaith andwyol ar addysg eich plentyn.

Os ydych yn meddwl am wneud cais i drosglwyddo eich plentyn i ysgol arall, dylech drafod eich opsiynau gydag ysgol bresennol eich plentyn gyntaf.

Efallai bod rhesymau addysgol cryf pam na ddylai trosglwyddiad ddigwydd, y bydd angen i chi eu hystyried.

Cyn penderfynu i ymgeisio am le mewn ysgol arall, bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut bydd eich plentyn yn teithio i'r ysgol honno, gan na fyddwch o reidrwydd yn gymwys ar gyfer cymorth trafnidiaeth, hyd yn oed os oeddech yn gymwys gynt.

Lle bo’n bosibl, ni ddylech symud eich plentyn o’r ysgol bresennol tan bod lle amgen addas ar gael.

Bydd peidio â mynychu’n cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig ac mae’n bosibl y bydd yn cael ei adrodd wrth y swyddog lles addysg.

Ni fydd trosglwyddiad ysgol yn tarfu ar unrhyw gamau sydd eisoes ar waith gan y Gwasanaeth Lles Addysg.

Nid yw’r cyngor yn annog ceisiadau am drosglwyddiad un ai ym Mlwyddyn 10 neu 11 gan mae'n bosibl na fydd modd dysgu opsiynau pwnc TGAU eich plentyn yn yr ysgol yr ydych yn gwneud cais amdani, ac mae'n debygol y bydd hyn yn cael effaith andwyol ar y dysgu.

Os ydych yn awyddus i newid ysgol gan eich bod yn symud i mewn i Gasnewydd neu i rywle arall yng Nghasnewydd, ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd eich plentyn yn derbyn lle yn yr ysgol leol.

Does dim gwarant o le mewn unrhyw ysgol, hyd yn oed os yr ysgol honno yw'r ysgol ddalgylch, ac os yw'r ysgol eisoes yn llawn yn y flwyddyn ysgol berthnasol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.

25. Os rwyf eisiau mynd ar wyliau estynedig am bedair wythnos, a fydd lle fy mhlentyn mewn ysgol yn cael ei dynnu nôl?

Mae angen i chi siarad â phennaeth eich plentyn os ydych yn bwriadu mynd ar wyliau yn ystod y tymor ysgol gan fod gan bob corff llywodraethu brotocol cytunedig ar hyn.

Os yw absenoldeb gwyliau estynedig yn cael ei gymeradwyo ond nid yw’r plentyn yn dychwelyd i’r ysgol erbyn y dyddiad cytunedig, mae risg y bydd yn colli’i le.

Bydd methu â dychwelyd ar y dyddiad cytunedig o bosibl yn arwain at bryderon llesiant - mae'n bosibl y bydd plentyn neu berson ifanc sy’n methu addysg yn cael ei ystyried fel ei fod mewn perygl o niwed sylweddol.

Bydd unrhyw bryderon o’r fath yn cael eu cyfeirio at yr awdurdodau statudol er ystyriaeth.  

26. Oes modd symud fy mhlentyn i fyny neu i lawr i flwyddyn arall?

Rydym yn disgwyl i blant gael eu haddysg yn eu grŵp blwyddyn, oni bai bod amgylchiadau arbennig, megis plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu blant sydd wedi cael problemau neu wedi methu rhan o’r flwyddyn, yn aml yn sgil salwch.

Pan fo amgylchiadau eithriadol, byddwn yn ystyried cais rhiant i blentyn gael ei dderbyn y tu allan i’r grŵp blwyddyn arferol.

Fodd bynnag, does dim hawl i apelio os yw lle’n cael ei gynnig ond nid yn y grŵp blwyddyn dewisol.

Ni fydd eich plentyn yn cael ei dderbyn i unrhyw grwp blwyddyn y tu allan i'w oedran cronolegol oherwydd bod y grwp blwyddyn cywir yn llawn. 

27. A allaf i roi addysg i’m plentyn gartref?

Fel arfer, cyfeirir at hyn fel addysg ddewisol yn y cartref ac mae gan rieni hawl i addysgu eu plant gartref os ydynt yn bodloni gofynion adran 7 Deddf Addysg 1996.

Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar rieni bob plentyn o oed ysgol gorfodol i sicrhau bod y plentyn yn derbyn addysg llawn-amser effeithlon sy'n addas i'w hoedran, gallu a sgiliau, ac i unrhyw anghenion addysgol arbennig all fod ganddynt, un ai drwy fynychu ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Os yw'ch plentyn yn mynd i ysgol ar hyn o bryd ac rydych yn penderfynu rhoi addysg gartref iddo, dylech ysgrifennu at yr ysgol yn gofyn i dynnu'ch plentyn oddi ar gofrestr yr ysgol.

Sylwch na fydd rhieni’n derbyn unrhyw adnoddau na chanllawiau ar addysgu na’r cwricwlwm gan y cyngor unwaith y gwneir penderfyniad i dynnu’r plentyn o’r ysgol.  

28. Pwy sy’n gymwys ar gyfer trafnidiaeth o gartref i’r ysgol?

Rhoddir cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol i ddisgyblion oedran cynradd sy’n byw ddwy filltir neu ymhellach o’u hysgol ddalgylch agosaf neu’r ysgol agosaf sydd ar gael, ac i ddisgyblion oedran uwchradd sy’n byw dair milltir neu ymhellach o’u hysgol ddalgylch neu’r ysgol agosaf sydd ar gael – mae hyn yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Yn ogystal, mae’r Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) yn nodi y dylai plentyn fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth o’r cartref i’r ysgol a ddim i ysgol arall os bydd honno’n agosach na’r ysgol ddalgylch ac ar yr amod bod y pellter cymhwyso yn berthnasol.

Er bod gan bob ysgol ardal ddalgylch dynodedig, gall rhieni ddewis unrhyw ysgol maent am i’w plant ei mynychu.

Os byddwch yn penderfynu anfon eich plentyn i ysgol nad yw'n ysgol ddalgylch na'r ysgol agosaf, byddwch yn gyfrifol am yr holl gostau a'r trefniadau cludiant.

Os nad yw cais am ddewis ysgol yn llwyddiannus, byddwch ond yn gymwys am gymorth trafnidiaeth os yw’ch plentyn yn mynychu un ai’r ysgol ddalgylch fel opsiwn amgen neu’r ysgol agosaf sydd ar gael, fel y’i pennir gan y tîm derbyn i ysgolion, ac os yw’r maen prawf pellter yn cael ei fodloni. 

TRA88976 2/8/2018