Gwisg Ysgol

Corff llywodraethu pob ysgol sy’n penderfynu ar y polisi ar wisg ysgol neu’r polisi ar gôd gwisg ac edrychiad disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cyrff Llywodraethu ar Bolisïau Gwisg Ysgol ac Edrychiad Disgyblion i helpu cyrff llywodraethu i roi polisi ar wisg ysgol ac edrychiad disgyblion ar waith, neu newid eu polisi.

Bu Llywodraeth Cymru’n darparu cymorth ariannol tuag at gostau gwisgoedd ysgol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7 oedd â hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Daeth y cynllun hwn i ben ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2017/18.

Mae’r rhan fwyaf o Ysgolion Uwchradd Casnewydd wedi ymrwymo at ddatblygu Cynllun Ailgylchu Gwisgoedd Ysgol, wedi ei anelu’n benodol at ddisgyblion blwyddyn 6 yn pontio i flwyddyn 7.

Mae llawer o rieni'n cytuno bod plant yn tyfu'n sydyn weithiau yn yr oed hwn, gan arwain at wisgoedd ysgol nad oes fawr o ddefnydd arnyn nhw, ac y gellir eu rhoi i eraill.

Holwch am y cynllun yn eich ysgol uwchradd leol.

Grant Datblygu Disgyblion/ Gwisg Ysgol Grant  

Mae Grant Datblygu Disgyblion (GDD) Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu gwisg ac offer ysgol plentyn, ynghyd ag eitemau ar gyfer gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol, pan fydd teuluoedd ar incymau isod.

Mae arian wedi’i roi ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023.

Mae'r grant yn rhoi cymorth i deuluoedd ar incwm isel ar gyfer prynu:

  • Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • Dillad chwaraeon gan gynnwys esgidiau
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns
  • Offer e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu
  • Offer arbenigol pan fo gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg
  • Gliniaduron, cyfrifiaduron llechen
  • Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau’r ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored, e.e. dillad gwrth-ddŵr.

Gwneir taliad o £225 fesul disgybl ym mhob blwyddyn ysgol â hawl ac eithrio disgyblion sy'n dechrau ym Mlwyddyn 7 a fydd yn derbyn taliad o £300. Bydd y taliadau grant gwisg ysgol ganol mis Awst.

Sylwch fod gwerth y grant hwn wedi’i gynyddu gan £100 fel uchod am flwyddyn yn unig (2022/23) fesul disgybl cymwys.

Pwy sy’n gymwys?

Gall disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais am y grant PYADd ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23 os, ym mis Medi 2022, maent:

  • yn dechrau mewn dosbarth derbyn neu flwyddyn 1, 2, 3, 4, 5 neu 6 mewn ysgol gynradd a gynhelir
  • yn mynd i flwyddyn 7, 8, 9, 10 neu 11 mewn ysgol uwchradd a gynhelir
  • yn 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned atgyfeirio disgyblion 

Mae cyllid hefyd ar gael i bob plentyn sy’n derbyn gofal sydd o oedran ysgol gorfodol.

Mewn newid i’r trefniadau blaenorol, yr awdurdod lleol lle mae’r plentyn sy’n derbyn gofal yn mynychu’r ysgol sy’n gyfrifol am ddefnyddio’r grant.

Mae disgyblion nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus sy’n dechrau yn y blynyddoedd uchod ym mlwyddyn ysgol 2022-23 hefyd â hawl i gymorth o dan y cyllid hwn.

Nid yw disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trosiannol yn gymwys ar gyfer yr arian hwn.

Gwnewch gais nawr