Cwynion

Mae gan gyrff llywodraethu'r holl ysgolion a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion meithrin, weithdrefn ar gyfer delio â chwynion gan rieni, disgyblion, aelodau staff, llywodraethwyr, aelodau'r gymuned ac eraill.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi Gweithdrefnau Cwyno ar gyfer Cyrff Llywodraethu Ysgolion.

Bydd ysgolion unigol yn darparu manylion am eu gweithdrefn gwyno ar gais.

Ewch i wefan Dysgu Cymru i gael arweiniad ar gwynion ac apeliadau yn ymwneud â'r cwricwlwm, addoli crefyddol, derbyniadau, Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), gwaharddiadau, cwynion gan staff, disgyblu staff a gallu athrawon.

Nid yw gweithdrefnau cwyno ysgolion yn disodli'r gweithdrefnau hyn.

Cwyno

Dylai cwyn am ysgol gael ei chyfeirio'n uniongyrchol at yr ysgol.

Gofynnwch i'r ysgol am gopi o'i pholisi cwynion fel y byddwch chi'n deall yn union sut bydd yn delio â'ch cwyn.