Perchen ar gartref cost isel

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda chymdeithasau tai a datblygwyr preifat i greu cartrefi fforddiadwy, rhatach na gwerth y farchnad, ar gyfer pobl y mae arnynt angen tai yng Nghasnewydd.

Y nod yw helpu i greu cymunedau sefydlog, cymysg trwy ddatblygu tai o ansawdd da ar gyfer pobl sydd eisiau cartref ond nad ydynt yn gallu fforddio prynu neu rentu eiddo ar y farchnad agored.

Mae’r cyngor yn hysbysebu eiddo ar Ddewisiadau Tai Casnewydd sy’n cynnwys: 

  • Rhentu i brynu – gallwch rentu eich cartref oddi wrth un o’r cymdeithasau tai partner a’i brynu yn y dyfodol
  • Prynu’n rhannol, a elwir hefyd yn berchenogaeth a rennir – byddwch yn prynu cyfran o eiddo ac yn talu rhent i gymdeithas dai ar gyfer y gyfran sy’n weddill
  • Prynu nawr gydag ecwiti a rennir – gallwch brynu 100% o eiddo a thalu hyd at 50% yn unig o’r gwerth. Bydd un o’r cymdeithasau tai partner yn cadw buddiant yn yr eiddo ar gyfer gweddill y gwerth, y gellir ei brynu’n ddiweddarach neu ei ad-dalu wrth werthu eich cartref
  • Prynu nawr – gallwch brynu eiddo nawr ond gallwch newid i’w rentu yn y dyfodol os bydd eich amgylchiadau’n newid

Mae’r cynllun tai fforddiadwy’n cynnig ystod o gartrefi mewn lleoliadau amrywiol ledled y ddinas, yn rhan o ddatblygiadau mwy o faint a adeiladwyd gan adeiladwyr tai cenedlaethol.

Mae’n rhaid i gartrefi fodloni’r safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, felly gallwch fod yn sicr o gartref o ansawdd da am bris fforddiadwy.

Gwneud cais 

Cofrestrwch a chyflwynwch gais am dai fforddiadwy ar Ddewisiadau Tai Casnewydd