Ar hyn o bryd rydym yn cael problemau technegol wrth edrych ar ddogfennau cynllunio ar-lein. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Sut i chwilio
Gallwch chwilio ceisiadau cynllunio presennol a hanesyddol Casnewydd o 1989 ymlaen gan ddefnyddio enw’r stryd, y lleoliad neu gyfeirnod y cais.
Mae yna hefyd opsiwn pellach lle gallwch osod meini prawf gwahanol i chi gael gwybodaeth ychwanegol.
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru eich manylion personol fel y gallwch dderbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd ceisiadau.
Gallwch hefyd chwilio ar Fy Nghasnewydd
Ymholiadau cynllunio hanesyddol a hysbysiadau penderfyniadau a archifwyd
Gweler hysbysiadau am benderfyniadau cynllunio o 1989 hyd heddiw.
Neu chwiliwch am geisiadau cynllunio o 1989 ar y gronfa ddata mapio trwy fewnbynnu’r cyfeiriad a dewis y troeslun cynllunio o’r dewis categori.
Rydym yn codi ffi o £100 yr awr am geisiadau am fanylion hanes safle yn gysylltiedig â gwerthu, prynu neu brydlesu adeilad neu ddarn o dir, manylion yr amodau, cadarnhau eu cyflawni ac unrhyw wybodaeth gysylltiedig arall.
Caiff hyn ei gyfrifo ar sail 20 munud o amser swyddog fesul amod a brofir.
Er enghraifft, os dymunwch inni gadarnhau cyflawni amodau ar ganiatâd sy’n cynnwys 10 amod (200 munud o amser swyddog), bydd hyn yn costio £400.
Mae isafswm cost o £100, nid yw’r ffi hon yn ad-daladwy ac mae’n rhaid ei thalu cyn pob chwiliad.
Mae hwn yn wasanaeth an-statudol gan y cyngor. Os hoffech inni wirio amodau penodol cais cynllunio yn hytrach na phob un, mae’n rhaid i’r ymholiad nodi hynny’n glir neu bydd y ffi am y gwasanaeth yn seiliedig ar nifer yr amodau ar y caniatâd.
E-bostiwch eich ceisiadau i planning@newport.gov.uk - bydd gofyn am daliad o flaen llaw.
Rydym ym ceisio ymateb i bob cais o fewn 21 diwrnod wedi eu derbyn.
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd neu’r datblygwr yw sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag amodau unrhyw ganiatâd cynllunio.
Ar gais, mae’n bosibl y bydd gwybodaeth o unrhyw ffeil, a archifwyd â dyddiad rhwng 1998 a 2008, ar gael i’w gweld ar-lein, am dâl sy’n seiliedig ar yr amser swyddog y rhagwelir y bydd ei angen i’w huwchlwytho, a chewch wybod faint yw’r tâl o flaen llaw.
Cyn 1998, dim ond hysbysiadau penderfyniadau sydd ar gael.
Rhown restr ichi o’r amodau perthnasol a dweud p’un a ydym wedi derbyn a chytuno ceisiadau am gadarnhau eu cyflawni yn rhannol neu yn llawn.
Byddwn hefyd yn rhoi gwybod p’un a oes unrhyw hysbysiadau gorfodi cyfredol sy’n berthnasol i’r eiddo.
Ni chynhelir archwiliadau safle, bydd ein hymatebion yn gyfan gwbl ar sail ein cofnodion cyhoeddus sydd ar gael yn electronig.
Am gopïau o gytundebau S106 a hysbysiadau gorfodi, e-bostiwch land.charges@newport.gov.uk
Rydym ym ymdrechu i gadw’r safle’n gyfredol. Os cewch unrhyw broblemau wrth geisio gweld gwybodaeth, cysylltwch ag aelod o’r tîm Rheoli Datblygiad drwy ffonio (01633) 656656 neu drwy anfon e-bost i planning@newport.gov.uk