Datblygiad mawr

Ym maes cynllunio, diffinnir datblygiad mawr fel:

  • Darparu 10 neu fwy o dai annedd
  • Cais amlinellol ar gyfer safle 0.5 hectar neu fwy lle na nodwyd nifer arfaethedig yr anheddau
  • Darparu adeilad neu adeiladau y bwriedir iddo/iddynt greu lle llawr o 1,000 o fetrau sgwâr neu fwy
  • Datblygiad a gynhelir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu fwy

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn mynnu bod rhaid i Ddatganiad Dylunio a Mynediad (DAS):

  • Esbonio’r egwyddorion a’r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad
  • Dangos y camau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a sut mae dyluniad y datblygiad yn ystyried y cyd-destun hwnnw
  • Esbonio’r polisi neu’r ymagwedd a ddefnyddiwyd mewn perthynas â mynediad a sut mae polisïau yn ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu wedi cael eu hystyried
  • Esbonio sut mae materion penodol a allai effeithio ar fynediad i’r datblygiad wedi derbyn sylw