Ar 1 Mawrth 2016, diwygiwyd Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i ragnodi pa fath o brosiectau sy’n Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).
Mae enghreifftiau o brosiectau DNS yn cynnwys:
- gorsafoedd cynhyrchu trydan y disgwylir iddynt fod â chapasiti cynhyrchu gosodedig o 10-50MW (neu 10+ MW ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir)
- datblygiad cysylltiedig â maes awyr sy’n disgwyl o leiaf 1 filiwn o deithwyr neu 5000 o symudiadau cargo y flwyddyn
- gwaith trin dŵr gwastraff y disgwylir iddo fod â chapasiti i wasanaethu poblogaeth o fwy na 500,000 neu seilwaith sydd â chapasiti o fwy na 350,000 o fetrau ciwbig i drin dŵr gwastraff neu storio dŵr gwastraff
Gweler canllawiau DNS Llywodraeth Cymru
Canllawiau gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru i ymgeiswyr a chyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â cheisiadau DNS
Ffïoedd sy’n gysylltiedig â cheisiadau DNS
Mae ceisiadau ar gyfer prosiectau cymwys yn cael eu cyflwyno i weinidogion Llywodraeth Cymru a’u penderfynu ganddynt.
Ffïoedd
Os yw’r ymgeisydd yn gofyn i’r awdurdod cynllunio lleol roi cyngor cyn-ymgeisio ar gyfer DNS, mae’n rhaid talu ffi gyda’r cais.
Ar 1 Mawrth 2016, y ffi ar gyfer y gwasanaeth hwn yw £1500. Nid yw ffïoedd yn ad-daladwy.
Ceisiwn ymateb i chi o fewn 28 niwrnod o wneud cais dilys (neu gyfnod arall y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng yr ymgeisydd a’r awdurdod).
Ymholiadau cyn-ymgeisio
Lawrlwythwch y ffurflen cyn-ymgeisio statudol ar gyfer DNS (pdf) i ysgrifennu at yr awdurdod cynllunio lleol.
Darllenwch y canllawiau ar ddeddfwriaeth DNS i gael gwybod pa wybodaeth y mae’n ofynnol i chi ei rhoi a’r hyn y mae’n rhaid i ni ei roi mewn ymateb.
Byddwn yn rhoi’r cyngor gorau yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael i ni.
Weithiau, gallai gwybodaeth ddod i law yn dilyn trafodaethau cyn-ymgeisio cychwynnol sy’n newid barn y swyddog achos ynglŷn â chynllun, a bydd cywirdeb y wybodaeth a roddwch yn effeithio ar hyn mewn rhai achosion.
Nid yw unrhyw gyngor a roddir gan swyddogion y cyngor mewn ymateb i ymholiadau cyn-ymgeisio yn gyfystyr â phenderfyniad ffurfiol gan y cyngor fel yr awdurdod cynllunio lleol.
Rhoddir barn neu safbwyntiau mewn ewyllys da a hyd eithaf ein gallu, ond heb ragfarnu ystyriaeth ffurfiol o unrhyw gais cynllunio.
Penderfyniad terfynol
Gellir gwneud y penderfyniad terfynol ar unrhyw gais ar ôl ymgynghori â phobl leol, ymgyngoreion statudol a phartïon eraill â buddiant yn unig, ac fe’i gwneir gan weinidogion Cymru.
Ni all swyddogion warantu’r penderfyniad ffurfiol terfynol a wneir ar geisiadau.
Bydd cyngor cyn-ymgeisio a roddwyd yn cael ei ystyried yn ofalus wrth ddod i benderfyniad neu wneud argymhelliad ar gais, yn ddarostyngedig i’r amod y gallai amgylchiadau a gwybodaeth newid neu ddod i law a allai newid y safbwynt hwnnw.
Mewn achosion lle y bu oedi wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio ar ôl cael cyngor, bydd y pwys a roddir i gyngor cyn-ymgeisio’n lleihau dros amser a gallai gael ei ddisodli gan gyngor newydd gan y llywodraeth neu bolisïau cynllunio newydd.
Rhyddid Gwybodaeth
Mae’n bosibl y bydd rhaid i’r cyngor ddatgelu gwybodaeth os gofynnir iddo wneud hynny gan drydydd parti yn rhan o gais Rhyddid Gwybodaeth.
Os ydych chi’n credu bod y wybodaeth a roddwch yn sensitif yn fasnachol neu y dylai fod yn gyfrinachol am resymau eraill, ac felly nad yw’n ddarostyngedig i ofynion datgelu’r Ddeddf, dylech gynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw a’r rhesymau drosto yn rhan o’ch cyflwyniadau ysgrifenedig.
Bydd y cyngor yn ceisio sicrhau cyfrinachedd, ond mae’n rhaid i unrhyw geisiadau o’r fath gael eu marcio’n gyfrinachol a datgan yn eglur faterion sensitifrwydd masnachol neu resymau eraill arwyddocaol pam na cheir datgelu’r wybodaeth hon i’r cyhoedd.
Ni fydd y cyngor yn cael ei ddal yn gyfrifol am y cyfryw faterion y canfyddir eu bod yn annigonol yn ddiweddarach gan y Comisiynydd Gwybodaeth, ac felly dylech geisio cyngor cyfreithiol os oes gennych unrhyw bryderon.
Cysylltu
Anfonwch neges e-bost at planning@newport.gov.uk neu ysgrifennwch at Reoli Datblygu, Adfywio, Buddsoddi a Thai, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR