Cytundebau Adran 106
Mae Adran 106 Deddf Cynllun Gwlad a Thref 1990 yn caniatáu i awdurdod cynllunio lleol, fel Cyngor Dinas Casnewydd, fynd i gytundeb sy’n rhwymo’n gyfreithiol neu rwymedigaeth cynllunio gyda thirfeddiannwr fel rhan o roi caniatâd cynllunio.
Y term ar gyfer y rhwymedigaeth yw cytundeb Adran 106 (neu A106).
Mae’r cytundebau yn ffordd o gyflawni neu fynd i’r afael â materion sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol yn nhermau cynllunio.
Gellir eu defnyddio i gefnogi darparu gwasanaethau a seilwaith megis priffyrdd, cyfleusterau hamdden, addysg, iechyd a thai fforddiadwy.
Rydym yn codi cyfraniad ar ddatblygwyr, yn dibynnu ar y maint a nifer yr anheddau sy’n cael eu hadeiladau a defnyddir yr arian i ddatblygu cyfleusterau i gefnogi’r preswylwyr ychwanegol sy’n byw yn y gymuned.
Adroddiad Adran 106
Lawrlwythwch Adroddiad Adran 106 2021-2022 (Word)