Tystysgrif datblygiad cyfreithlon

Mae Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon (LDC) yn ddogfen gyfreithiol rwymol a gyhoeddir gan awdurdod cynllunio lleol i gadarnhau:

  • Nad oes angen caniatâd cynllunio ar ddatblygiad arfaethedig, neu
  • nad oedd angen caniatâd cynllunio ar ddatblygiad sydd eisoes wedi digwydd neu ei fod wedi digwydd mor hir yn ôl fel ei fod yn ddiogel rhag camau gorfodi.

Mae LDC yn darparu prawf bod datblygiad yn gyfreithlon a gellir ei chyflwyno yn achos unrhyw heriau neu mewn amgylchiadau eraill, fel gwerthu tŷ ac ati.

Gwneud cais am LDC ay y Porth Cynllunio

Rhowch gymaint o wybodaeth gywir a manwl â phosibl – ar yr ymgeisydd y mae’r cyfrifoldeb i ddangos y dylid cyflwyno tystysgrif.

Costau

Lawrlwythwch y Raddfa Ffioedd  (pdf).

Mae’r ffi ar gyfer TDC yr un peth â’r ffi am gais cynllunio os yw’r datblygiad eisoes wedi’i wneud neu os yw ar waith.

Mae’r ffi yn hanner hynny ar gyfer datblygiad arfaethedig. 

Cyngor

Bydd  tîm cynllunio'r cyngor yn rhoi rhagor o gyngor ond cofiwch mai barn anffurfiol fydd hon yn seiliedig ar y wybodaeth rydych chi wedi’i darparu ac nid yw’n rhwymo’r cyngor mewn unrhyw ffordd.