Browser does not support script.
Mae angen trwydded i redeg ysgol farchogaeth neu sefydliad sy'n llogi ceffylau neu ferlod ar gyfer marchogaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac mae ffi i'w dalu.
Gweler y ffioedd trwydded iechyd anifeiliaid cyfredol.
Caiff ysgolion marchogaeth eu harchwilio bob blwyddyn gan filfeddyg a ddewisir gan yr awdurdod lleol a fydd yn arolygu pob ceffyl, cyfrwyau, stablau ac ardal ymarfer.
Yr ymgeisydd fydd yn talu unrhyw ffioedd milfeddygol yn ychwanegol at ffi y cais am drwydded.
Gwnewch gais am drwydded sefydliad marchogaeth
Darllenwch fwy o ganllawiau ynghylch rhedeg sefydliad marchogaeth
Cyswllt
E-bostiwch trading.standards@casnewydd.gov.uk neu cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd a gofynnwch am y tîm Safonau Masnach.