Trwydded sefydliad anifeiliaid

Bydd unrhyw un sy'n rhedeg llety cŵn neu gathod yng Nghasnewydd angen trwydded gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Rhaid bodloni'r amodau trwydded cyn y rhoddir y drwydded. 

Cysylltwch â ni cyn i chi wneud cais am drwydded

Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded er mwyn i ni allu siarad am y gofynion ac anfon yr holl amodau y bydd angen i chi eu bodloni er mwyn i chi allu gwneud cais am drwydded ar-lein.

E-bost: [email protected]

 

Pan fyddwch yn gwneud cais, ni ddylech fod wedi eich diarddel rhag:

  • cadw sefydliad llety anifeiliaid
  • cadw siop anifeiliaid anwes o dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid dan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygiad) 1954
  • bod yn berchen, cadw, ymwneud â chadw neu i gael hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu gludo neu gymryd rhan mewn cludo anifeiliaid o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006

Mae ffi yn daladwy, edrychwch ar y ffioedd trwyddedu anifeiliaid cyfredol

Pan fo cais yn cael ei ystyried, bydd y swyddog arolygu yn chwilio am y canlynol:

  • bod llety anifeiliaid addas ar gael
  • bod deunyddiau bwyd, diod a dillad gwely addas yn cael eu darparu, ac yr ymwelir â’r anifeiliaid a'u hymarfer
  • y camau a gymerir i atal a rheoli lledaeniad afiechyd a bod cyfleusterau arwahanu
  • y rhoddir amddiffyniad digonol i anifeiliaid rhag tân ac argyfyngau eraill
  • bod cofrestr gyda disgrifiad o'r holl anifeiliaid, eu dyddiad cyrraedd a gadael ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg gan swyddog awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd.

Gwnewch gais am drwydded sefydliad lletya anifeiliaid

Dirwyon a chosbau

Fe allech chi gael dirwy o hyd at £500 neu gael eich carcharu am hyd at dri mis, neu'r ddau, os ydych chi'n rhedeg sefydliad lletya anifeiliaid heb drwydded, neu os nad ydych yn dilyn amodau eich trwydded.

Cydsyniad mud

Nid yw cydsyniad mud yn berthnasol, rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.

Os nad ydych wedi clywed gan Gyngor Dinas Casnewydd o fewn 8 wythnos, cysylltwch â'r cyngor isod.

Ceisiadau sy’n methu

Dylai ymgeiswyr y gwrthodir trwydded iddynt gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd a gallant hefyd apelio i'r llys Ynadon.

Cyswllt

E-bostiwch [email protected]