Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy

Sustainable Learning logo

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru raglen buddsoddi cyfalaf, sef Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid gynt yn Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif), yn fuddsoddiad hirdymor mewn adeiladau ysgol, gan ganolbwyntio adnoddau ar ddarparu’r ysgolion cywir yn y lleoedd cywir.

Mae’r rhaglen yn cynrychioli’r buddsoddiad seilwaith mwyaf mewn ysgolion ers y 1960au, gan ddarparu prosiectau adeiladu a gwella ysgolion drwy ymrwymiad arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi darparu buddsoddiad gwerth £52m o dan Fand A y rhaglen.

Cafodd rhaglen Band B gychwynnol Cyngor Dinas Casnewydd ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a darparodd amlen ariannol gyffredinol o £70m gyda 65% yn cael ei chyfrannu gan Lywodraeth Cymru. 

Cyflwynodd Cyngor Dinas Casnewydd Raglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Cafodd y Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig ei gymeradwyo ar 8 Chwefror 2022 i gynnwys prosiect newydd yn Ysgol Gynradd Sant Andreas. Mae’r amlen ariannol Band B bellach yn £84.2m.

Darllenwch Strategic Outline Programme update July 2017 (pdf)

Darllenwch Busnes Llawn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed (pdf) 

Darllenwch Busnes Llawn Ysgol Basaleg (pdf)

Darllenwch Strategic Outline Programme update October 2020 (pdf)

Darllenwch Amlinellol Strategol - diwygiad 2021 - Llythyr Cymeradwyo (pdf)

Prosiectau cyfredol yng Nghasnewydd

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed 

Mae'r adeilad addysgu a bwyta/gwasanaeth newydd wedi'i gwblhau ac yn cael ei ddefnyddio bellach. Mae cae chwaraeon 3G hefyd wedi'i ddarparu ac yn cael ei ddefnyddio.

A picture of the front of Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

 A picture inside the newly completed Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

 A picture inside the newly completed Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

 

 

Ysgol Basaleg

Bydd y prosiect yn cynnwys symud ac amnewid ystod o adeiladau presennol gyda bloc addysgu newydd sbon o'r radd flaenaf, meysydd chwaraeon newydd a gwell mynediad a pharcio. Mae'r maes chwarae cyntaf wedi'i gwblhau ac yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol a'r gymuned leol. Dechreuodd y prif brosiect ym mis Chwefror 2022 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn haf 2023, a disgwylir i’r llety dros dro gael ei symud a’r gwaith atgyweirio ar y tir gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2024.

 An aerial view of the Bassaleg school development

An aerial view of the Bassaleg school development

An aerial view of the Bassaleg school development

 

 

 

Whiteheads (Adleoli Ysgol Gynradd Pillgwenlli)

Mae'r cynlluniau ar gyfer yr adeilad ysgol newydd yn mynd rhagddynt gyda'r bwriad o ddechrau'r gwaith yn ystod gwanwyn 2023. Mae'r contractwr ar gyfer y prosiect wedi'i benodi ac mae'r adeilad wedi'i ddylunio i gyflawni statws Di-Garbon Net gweithredol. (Argraff arlunydd isod)

Ar

Pill primary school 2 (artist impression)

Ysgol Gynradd Sant Andreas (adnewyddu adeilad yr Ysgol Iau)

Prosiect i adnewyddu adeilad cyfnod allweddol dau Sant Andreas. 
Mae adeilad yr Adran Iau wedi'i ddymchwel a'i symud o'r safle.

Ysgol Gyfun Caerllion 

Mae'r cynlluniau ar gyfer adeilad newydd yr ysgol yn mynd rhagddynt gyda'r bwriad o ddechrau ar y gwaith yng ngwanwyn/haf 2023.

Prosiectau wedi'u cwblhau yng Nghasnewydd

Ysgol Gyfun Gwent Is-Coed 

Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

Darparu bloc addysgu newydd a sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf Casnewydd a agorodd yn 2016.

 

Ysgol John Frost

The John Frost School

Bloc addysgu newydd, adnewyddu adeiladau presennol a gwaith tir helaeth gan gynnwys darparu maes chwarae 3G.

 

Ysgol Gynradd Gaer

Gaer Primary

Darparu bloc addysgu Cyfnod Sylfaen newydd, gan ddod â disgyblion y Cyfnod Sylfaen a CA2 at ei gilydd.

 

Ysgol Bryn Derw

Ysgol Bryn Derw

Adnewyddu ac ailfodelu adeilad babanod y Gaer i gartrefu Ysgol Bryn Derw, ysgol gyntaf Casnewydd ar gyfer plant ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig.

 

Ysgol Gynradd Lodge Hill Caerllion

Caerleon Lodge Hill Primary

Ysgol newydd yn dod a phlant y Cyfnod Sylfaen a CA2 at ei gilydd mewn un adeilad a dymchwel hen adeilad yr ysgol iau.

 

Ysgol Maes Ebwy – mae estyniad saith ystafell ddosbarth yn cael ei adeiladu i ddarparu capasiti ychwanegol a gwell darpariaeth ar gyfer plant ag anawsterau dysgu difrifol ac anghenion meddygol cymhleth.

Mae ystafelloedd dosbarth dros dro yn ysgolion cynradd Pentrepoeth, Mount Pleasant a Langstone wedi’u disodli gan estyniadau i adeiladau newydd, ac mae Ysgol Uwchradd Llyswyri wedi cael ffasâd blaen newydd a gwaith adnewyddu mewnol.

Yn ogystal mae dosbarthiadau meithrin wedi eu sefydlu yn ysgolion cynradd High Cross, Millbrook, Mynwy, Clytha, Parc Malpas a Glasllwch.

Mae nod y cyngor o ddarparu cyfleusterau meithrin ym mhob ysgol gynradd gymunedol a gynhelir yng Nghasnewydd bellach wedi'i gyflawni.

Mae dwy ysgol gynradd newydd ym Mharc Jiwbilî (o dan y gwaelod, a agorwyd ym mis Medi 2017) a Glan Llyn (o dan y brig, yn agor ym mis Medi 2019) hefyd wedi’u darparu mewn partneriaeth â datblygwyr. 

Glan Llyn Primary School

Jubilee Park school

Gwaith arfaethedig 2019 - 2024

Bydd Band B y rhaglen yn 2019 yn gweld buddsoddiad pellach yn ysgolion cynradd ac uwchradd Casnewydd, gan gynnwys cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Ysgol Basaleg, Ysgol Gyfun Caerllion a darpariaeth ysgol gynradd newydd ar safle datblygu Whiteheads ym Mhilgwenlli.

Darllenwch am ad-drefnu ysgolion yng Nghasnewydd