Ehangu Ysgol Bassaleg

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig canlynol:

Cynyddu capasiti Ysgol Basaleg o 1,747 i 2,050 yn weithredol o fis Medi 2023

Lawrlwytho’r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)

Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)

Ymgynghoriad

Daeth i ben 12 Tachwedd 2020

Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori.

Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)

Lawrlwytho fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf)

Darllenwch gwestiynau cyffredin am gynnig ehangu Ysgol Bassaleg.

Gallwch gyflwyno unrhyw sylwadau a/neu gwestiynau drwy e-bostio [email protected]

Cynlluniau a gynigir

Gweld y cynllun dymchwel safle arfaethedig (pdf)

Gweld y cynllun safle arfaethedig (pdf)

Gweld yr adeilad newydd arfaethedig – cynllun llawr gwaelod (pdf)

Gweld yr adeilad newydd arfaethedig – cynllun llawr cyntaf (pdf)

Gweld yr adeilad newydd arfaethedig – cynllun ail lawr (pdf)

Ni chaiff unrhyw ymatebion negyddol a gyflwynir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu hystyried fel gwrthwynebiadau i’r cynnig, yn hytrach cânt eu hystyried fel sylwadau negyddol.  Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.

Adroddiad Ymgynghori

Gweld yr Adroddiad Ymgynghori  (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, sylwadau sydd wedi dod i law ac ymateb y cyngor.

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol

Mae’r Aelod Cabinet wedi ystyried yr holl safbwyntiau a fynegwyd a’r ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol ac mae wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig i’r cam hysbysiad statudol.

Cyfnod Rhybudd Statudol 03 Mawrth 2021 – 01 Ebrill 2021

Mae’r cyfnod hysbysiad statudol yn galluogi pobl i fynegi eu barn i gefnogi neu wrthwynebu’r cynnig.

Lawrlwythwch yr Hysbysiad Statudol (pdf) 

Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Aelod Cabinet (pdf) 

Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf) 

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf) 

 

Adroddiad Gwrthwynebu

Gweld yr Adroddiad Gwrthwynebu sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a'r sylwadau a dderbyniwyd, ac ymatebion Cyngor Dinas Casnewydd.

Penderfyniad

Gan fod gwrthwynebiadau i'r cynnig wedi dod i law, gwnaed y penderfyniad terfynol gan Gabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithredu fel y Panel Penderfynu Lleol, yn unol ag adran 5 Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Penderfyniad Terfynol

Mae Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi penderfynu gweithredu'r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Bassaleg o fis Medi, 2023.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Aelod Cabinet (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch y llythyr hysbysu terfynol am y penderfyniad (pdf)