Ymgynghoriad ar y Cyd Ffurfiol i leihau'r capasiti ac ymestyn yr ystod oedran yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas
Mae hwn yn ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig ar y cyd a gyflwynwyd gan Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd:
I leihau nifer derbyn cyhoeddedig Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas o 54 i 45 o fis Medi 2024; ac ymestyn yr ystod oedran o 4-11 i 3-11 yn weithredol o fis Medi 2025;
Lawrlwytho'r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Penderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Ymgynghoriad
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 19 Mehefin 2023 a 30 Gorffennaf 2023.
Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a chaiff ei ystyried pan fydd y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)
Lawrlwytho fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Daeth yr ymgynghoriad i ben am hanner nos, 30 Gorffennaf 2023.
Adroddiad Ymgynghori
Gweld yr Adroddiad Ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, sylwadau sydd wedi dod i law ac ymateb y cyngor.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn dilyn diwedd yr ymgynghoriad, caiff adroddiad ymgynghori ei baratoi i grynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y Corff Llywodraethu a/neu’r Cyngor i’r sylwadau hyn.
Bydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas ac Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar Cyngor Dinas Casnewydd wedyn yn ystyried y farn a fynegwyd ac yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig neu beidio. Os penderfynir bwrw ymlaen, bydd y cynnig yn cael ei gyhoeddi drwy hysbysiad statudol. Bydd cyfnod yr hysbysiad statudol yn para am 28 diwrnod o'r dyddiad cyhoeddi, ac mae’n galluogi pobl i fynegi eu barn o ran cefnogi neu wrthwynebu'r cynigion.
Os na cheir gwrthwynebiadau ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad statudol, bydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Malpas a’r Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch bwrw ymlaen neu beidio.
Os derbynnir unrhyw wrthwynebiadau ac na chânt eu tynnu'n ôl wedyn yn ystod y cyfnod hysbysu hwn, Cabinet y Cyngor fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.