Ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Parc Tredegar o fis Medi 2024
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig canlynol:
Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Parc Tredegar o fis Medi 2024;
Lawrlwytho'r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Penderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Ymgynghoriad
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg o 25 Medi 2023 hyd at 12 Tachwedd 2023.
Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a chaiff ei ystyried pan fydd y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)
Lawrlwytho fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys dwy sesiwn galw heibio gyda’r rheiny y mae’r cynnig yn effeithio arnynt lle bydd swyddogion y Cyngor ar gael i egluro’r cynigion yn fanylach ac i ateb unrhyw gwestiynau.
Maent yn cael eu cynnal yn yr ysgol ar ddydd Mawrth 3 Hydref 2023 am 08.45 - 09.45am, ac yna ar ddydd Llun 9 Hydref 2023 am 14.45 - 15.45pm.
Gellir cyflwyno cwestiynau drwy e-bost i school.reorg@newport.gov.uk a bydd swyddogion y Cyngor yn rhoi ymateb o fewn 7 diwrnod fel rheol.
Dylid cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad gan ddefnyddio'r profforma ymateb ar-lein.
Gall ymatebion hefyd gael eu dychwelyd dros e-bost i: school.reorg@newport.gov.uk. Fel arall, gellir dychwelyd y ffurflen at y Swyddog Datblygu a Gwybodaeth Addysg, Ystafell 425w, Cyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR. Dylai ymatebion i'r ymgynghoriad a gyflwynir drwy'r cyfeiriad e-bost uchod gael eu nodi'n glir fel ymatebion i'r ymgynghoriad. Dim ond ymatebion a gyflwynir gan ddefnyddio'r dulliau hyn a gaiff eu hystyried fel ymatebion i'r ymgynghoriad.
Mae copïau caled o’r dogfennau ymgynghori ar gael ar gais drwy e-bostio school.reorg@newport.gov.uk neu drwy ffonio 01633 656656.
Ni chaiff unrhyw ymatebion negyddol a gyflwynir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu hystyried fel gwrthwynebiadau i’r cynnig, yn hytrach cânt eu hystyried fel sylwadau negyddol. Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.
Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos, 12 Tachwedd 2023.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn dilyn diwedd yr ymgynghoriad, caiff adroddiad ymgynghori ei baratoi i grynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y Cyngor i’r sylwadau hyn.
Bydd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar yn ystyried y farn a fynegwyd cyn penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig ai peidio. Os penderfynir parhau, bydd hysbysiad statudol yn cael ei gyhoeddi.
Bydd y cyfnod cynnig statudol yn para 28 diwrnod wedi'r dyddiad cyhoeddi, ac mae’n galluogi pobl i fynegi eu barn o ran cefnogi neu wrthwynebu'r cynigion. Os na cheir gwrthwynebiadau ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad statudol, bydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Blynyddoedd Cynnar yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran a ddylid bwrw ymlaen neu beidio.
Os derbynnir unrhyw wrthwynebiadau ac na chânt eu tynnu'n ôl wedyn yn ystod y cyfnod hysbysu hwn, Cabinet y Cyngor fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.