Ehangu Ysgol Bryn Derw

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymgynghori ar y cynnig i:

Ehangu Ysgol Bryn Derw a chynyddu capasiti’r ysgol o 48 i 68 o fis Ionawr 2020.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch yr  Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb(pdf)  

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 1 Mai ac 11 Mehefin 2019

Roedd cyngor y broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gafodd eu recordio a’u crynhoi mewn  adroddiad ymgynghori.

Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi yma a’i ystyried pan fo’r Cyngor yn gwneud penderfyniad.

Cynhaliwyd sesiynau galw heibio yn Ysgol Bryn Derw, Melford Road, Casnewydd NP20 3FQ, ar fore 16 Mai ac ar brynhawn 21 Mai, lle cyfarfu’r bobl yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol gan y cynnig â swyddogion y cyngor oedd ar gael i esbonio’r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau.

Lawrlwytho’r llythyr i randdeiliaid (pdf)  

Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn(pdf)  

Lawrlwythwch   fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori  (pdf)  

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori (pdf)

Caiff unrhyw ymatebion a wneir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu cyfrif fel sylwadau negyddol ac ni chânt eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i’r cynnig.   

Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.

Daeth yr ymgynghoriad i ben am hanner nos, nos Fawrth 11 Mehefin 2019. 

Y cynnig

Cynnig yw hwn i ehangu Ysgol Bryn Derw, sef ysgol arbennig a gynhelir yn y gymuned sydd eisoes yn ardal y Gaer yng Nghasnewydd.

Mae Ysgol Bryn Derw yn gwasanaethu’r ddinas gyfan ac yn cefnogi’r ddarpariaeth addysg ar gyfer plant 3-19 oed sydd wedi cael diagnosis o Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) ac anawsterau dysgu cysylltiedig na ellir diwallu eu hanghenion yn llwyddiannus mewn darpariaeth prif ffrwd neu Ganolfan Adnoddau Dysgu (CAD).

Bydd ysgol fwy yn lleihau’r angen i ddarparu lleoedd y tu allan i’r sir i ddisgyblion sy’n byw yng Nghasnewydd.

Agorodd yr ysgol ym mis Medi 2017 gyda chapasiti ar gyfer 48 o ddysgwyr yn cwmpasu’r ystod oedran rhwng 3 ac 19.

Erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2017/2018, roedd 47 lle wedi’u llenwi gan ddisgyblion yn y dosbarthiadau Derbyn i Flwyddyn 9 (4-14 oed).

Mewn ailasesiad o gapasiti’r ysgol yn nhymor yr haf 2018 nodwyd y gellid o bosibl derbyn wyth disgybl ychwanegol o fis Medi 2018.

Cafodd yr holl lefydd gwreiddiol ac ychwanegol eu llenwi ym mis Medi 2018 ac mae 55 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd.

O ystyried y sefyllfa, a’r ffaith y gall disgyblion aros yn yr ysgol nes y byddant yn 19 oed, bydd y cyfleoedd i dderbyn disgyblion eraill yn gyfyngedig yn ystod y blynyddoedd academaidd sydd i ddod.

Byddai cynyddu niferoedd gyda 12 o leoedd ychwanegol drwy ddefnyddio’r adeilad anecs sydd wedi ei ailwampio ar safle’r ysgol yn lleihau’r posibilrwydd yn y dyfodol o dderbyn lleoliadau o’r tu allan i’r sir a thrwy hynny gynnig arbedion refeniw hirdymor. 

Adroddiad ymgynghori

Lawrlwythwch yr adroddiad ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, sylwadau a ddaeth i law ac ymateb y cyngor i’r rhain.

Cyhoeddi Hysbysiad Statudol

Mae’r Aelod Cabinet wedi ystyried yr holl farn a fynegwyd a’r ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol ac mae wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig i’r cam hysbysiad statudol.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Aelod Cabinet (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)

Penderfyniad

Aeth yr ymgynghoriad drwy'r cam rhybudd statudol heb unrhyw wrthwynebiadau, ac felly gwnaed penderfyniad terfynol gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau.

Penderfyniad terfynol

Mae’r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau wedi gwneud penderfyniad i weithredu’r cynnig i ehangu Ysgol Bryn Derw a chynyddu capasiti yr ysgol o 48 i 68 o Ionawr 2020.

Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)

Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)

Lawrlwythwch y llythyr hysbysu terfynol am y penderfyniad (pdf)

TRA112450 05/12/2019