Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Gaer a Maesglas

Y cynnig

Cyflwynodd cyrff llywodraethu Ysgol Gynradd Gaer ac Ysgol Gynradd Maesglas, ynghyd â Chyngor Dinas Casnewydd, gynnig i ddefnyddio’r pwerau a roddir iddynt dan Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i sefydlu Partneriaeth Ysgolion Cynradd Gaer a Maesglas

Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae’r ysgolion ynghlwm yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth ffurfiol gan rannu’r trefniadau llywodraethiant dan un corff llywodraethu.

Mae’r ddwy ysgol wedi gweithio ar y cyd ers mis Ebrill 2019 pan benodwyd Pennaeth profiadol Ysgol Gynradd Gaer hefyd yn Bennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Maesglas, ar sail dros dro yn unig i ddechrau tan fis Awst 2021. Mae'r trefniant hwn wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y ddwy ysgol.  Mae hyn wedi arwain at y ddau gorff llywodraethu yn mynegi awydd i ffurfioli'r berthynas rhwng y ddwy ysgol.   

Nod y Ffederasiwn yw i’r ddwy ysgol weithio mewn partneriaeth i: 

  • ddatblygu’r arfer rhagorol a rennir sy’n gwarantu profiadau ardderchog a mwy o gyfleoedd i ddisgyblion a staff
  • datblygu’r nodau cyffredin a dulliau dysgu ac addysgu adfyfyriol fydd yn sicrhau bod y ddwy gymuned yn elwa ar addysg o safon.

Bydd hyn yn sicrhau deilliannau cadarnhaol sylweddol a safonau gwell i gymunedau’r ddwy ysgol. 

Ymgynghoriad

Mae Reoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 yn amlinellu’r gofyniad statudol i geisio barn rhanddeiliaid ar gynigion ffedereiddio.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 21 Mehefin ac 1 Awst 2021. Manylir ar ganlyniadau'r ymgynghoriad yn yr adroddiad ymgynghori (pdf).

At y diben hwn, diffinnir rhanddeiliaid priodol fel a ganlyn:

  • staff y ddwy ysgol
  • rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid disgyblion sy’n mynychu’r ddwy ysgol
  • y disgyblion sy’n mynychu’r ddwy ysgol (drwy law’r ddau gyngor ysgol)
  • undebau staff addysgu a staff cymorth sy’n cynrychioli athrawon a staff y ddwy ysgol
  • aelodau ward lleol y ddwy ysgol
  • penaethiaid pob ysgol yn ardal clwstwr Ysgol John Frost
  • Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De-ddwyrain Cymru
  • Estyn  

Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori (pdf) 

Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori (Fersiwn hawdd ei darllen) (pdf) 

Roedd y wybodaeth hon hefyd ar gael ar wefannau  Ysgol Gynradd Gaer  ac Ysgol Gynradd Maesglas, gyda chopïau caled ar gael i’w harchwilio yn y ddwy ysgol. 

Penderfyniad terfynol

Ystyriodd y ddau gorff llywodraethu yr adroddiad ymgynghori (pdf) gan gytuno eu bod yn dymuno symud ymlaen gyda’r cynnig.

O ganlyniad, cyfeiriwyd y penderfyniad terfynol i Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Sgiliau sydd wedi cytuno y dylai’r cynnig gael ei weithredu fel yr amlinellwyd yn y ddogfen ymgynghori.  

Bellach caiff Offeryn Llywodraeth (dogfen gyfreithiol sy’n cofnodi cyfansoddiad corff llywodraethu) ei ddatblygu ar gyfer y corff llywodraethu wedi’i ffedereiddio, er mwyn ethol a phenodi llywodraethwyr fel sy’n briodol.

Bydd hyn yn cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd y ffederasiwn. 

Bydd y ffederasiwn a adwaenir fel  Partneriaeth Ysgolion Cynradd y Gaer a Maesglas  yn cael ei sefydlu’n ffurfiol ac yn weithredol o 1  Ionawr 2022, pan fydd cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol unigol yn cael eu dirymu. 

Lawrlwytho’r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)

Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)

Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)

Lawrlwytho’r llythyr hysbysu terfynol am y penderfyniad (pdf)