Ymgynghoriad ffurfiol i sefydlu canolfan dosbarth ag 20 lle arbenigol Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Uwchradd Llan-wern o fis Medi 2023
Ymgynghorodd Cyngor Dinas Casnewydd ar y cynnig a ganlyn:
Sefydlu canolfan dosbarth ag 20 lle arbenigol Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Uwchradd Llan-wern o fis Medi 2023.
Lawrlwytho'r Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Penderfynu gysylltiedig (pdf)
Lawrlwytho’r Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (pdf)
Ymgynghoriad
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 23 Tachwedd 2022 a 6 Ionawr 2023.
Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori. Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a chaiff ei ystyried pan fydd y Cyngor yn penderfynu ar y ffordd ymlaen.
Lawrlwytho’r ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)
Lawrlwytho fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Lawrlwytho fersiwn Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig o’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Darllenwch y cwestiynau cyffredin am yr ymgynghoriad ar sail ASA Ysgol Uwchradd Llanwern.
Ni chaiff unrhyw ymatebion negyddol a gyflwynir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu hystyried fel gwrthwynebiadau i’r cynnig, yn hytrach cânt eu hystyried fel sylwadau negyddol. Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.
Daeth yr ymgynghoriad i ben am hanner nos, 6 Ionawr 2023.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn dilyn diwedd yr ymgynghoriad, caiff adroddiad ymgynghori ei baratoi i grynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y Cyngor i’r sylwadau hyn.
Bydd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar yn ystyried y farn a fynegwyd cyn penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig ai peidio. Os penderfynir parhau, bydd hysbysiad statudol yn cael ei gyhoeddi.
Bydd y cyfnod cynnig statudol yn para 28 diwrnod wedi'r dyddiad cyhoeddi, ac mae’n galluogi pobl i fynegi eu barn o ran cefnogi neu wrthwynebu'r cynigion. Os na cheir gwrthwynebiadau ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad statudol, bydd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Blynyddoedd Cynnar yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran a ddylid bwrw ymlaen ai peidio.
Os derbynnir unrhyw wrthwynebiadau ac na chânt eu tynnu'n ôl wedyn yn ystod y cyfnod hysbysu hwn, Cabinet y Cyngor fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.